Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ELOD O IJRDD Y DELYN. Owen fab Urien oedd bia'r brain. Y mae cyfeiriad aneglur atynt yn niwedd mabinogi "Iarlles y Ffynnon." Ond ym mabinogi " Breuddwyd Rhonabwy" y ceir hanes yr ymladd rhwng brain Owen a bechgyn llys Arthur. Cyhoeddir "Breuddwyd Rhonabwy" am geiniog; i'w gael gan Ab Owen, Llanuwchllyn. Wil y Felin. " Glow-worm " yw'r enw Seisnig ar y pryf tân. " Pam y mae fo'n goleuo, y peth gwirion, i bawb ei weld?" Nid "yfo" sy'n goleuo, Wil, ond y hi. Ychydig iawn o oleu deifì y ceiliog, yr iar sy'n danbaid brydferth. Pam ? Wel, prun ai ar het eich tad ynte ar.fonet eich mam y mae mwyaf o liwiau ? Sibyl. Gwir, ni fu fawr am blant Lerpwl er ys tro. xirhoswch tan y rhifyn nesaf, cewch weled wynebau degau ohonynt, os nad ugeiniau. C. Y mae Carneddog yn casglu hen " emynnau gwylltion " y áiwygiadau, yr adseiniau o deimladau tanllyd yr hen ddiwygiadau, na chyhoeddwyd yn y llyfrau emynnau. Os oes darnau ar gof rhywun, anf oned hwynt iddo, i'r Carneddi, Nanmor, Beddgelert. Un o'r pethau mwyaf dyddorol yw hanes ambell long, yn enwedig llong yn myiid i chwilio am wybodaeth neu i gario'r efengyl i baganiaid ynysoedd pell y môr. Gwelwch fod Mr. Ẃilìiam James (Gwìlym IaffoJ, Bryn Gelly, Dinas, Cwm Bhondda, yn anfon hanes mordaith yr " Endeavour " i chwi; daw hanes y " John Williams," y llong genhadol, hefyd. Wedyn daw hanes y " Challenger," a hanes ambell long ryfel a llong hela morfìlod. C. Y mae'n anodd iawn dweyd Ue mae'r terfyn rhwng efelychiad a chyüeithiad. Wrth gyfìeithu, gwnaed y meddwl mor debyg i feddwl y gwreiddiol ag y medrir; wrth efelychu yr ydys yn rhydd, a phellaf yr ymadewir oddìwrth y gwreiddiol, mwyaf y teilyngdod.