Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. A.MI SAM. Bydd llawer o ddarluniau adar jn j rhifynnau nesaf. A fedraf ddychmygu pam mai robia goch yw eich hoff aderyn a Uygad y dydd eich hoff flodeuyn? Medraf yn hawdd. Am mai hwy sy'n aros trwy'r flwydd- yn. Oniddywedasochmewn llythyr o'r blaen, — " Nid v wyf yn hoffi adar sy'n meddwl o hyd am ryw wlad bell gynues, ac yn hiraethu: am fynd dros y môr yno ? " Bob. Y mae Miss Wini- fred Hartley a minnau ar ganol casglu yr hwian- gerddi Gymreig, i'w cy- hoeddi yn llyfr fydd yn ystôr o lawenydd i blant Cymru. Ll. Nis gellwch gael gwell desgrifiadau manwl o adar na rhai R. Morgan yn Cymrtt. Yr yswigw, y dres- glen, tinwyn y garreg, sydd gauddo yn rhifyn y mis hwn. 0. Yn yr hen amser ni ddechreuai'r brenin deyrnasu hyd nes y coronid ef. Yn awr dechreua deyrnasu yr eiliad y bydd ei ragflaenydd marw. Alun Yr wyf wedi methu cael darluniau wrth fy modd eto i roddi hanes y j trychineb ym Martinique. Yr wyf yn gobeithio y caf hwy erbyn y rhifyn nesaf. J. Y mae amryw, fel chwithau, yn blino ar " ormod o gofìantau plant." O'm rhan fy hun gallaf ddweyd i minnau deimlo felly gynt, ond y mae fy nheimlad wedi newid yn hollol. Yng nghanol blodau yr haf y mae arnaf hiraeth o hyd am y blodau fu farw yn y gwanwyn. Byddaf yn meddwl yn aml mai y pethau j goreu yn ein llenyddiaeth yw ambell ddarluniad o blant. Darllennwch yrj erthygl gan y Parch. T. îl. Davies, Burnley, yn y Dysgcäydd am Ebrill, am "Cathie," merch fechan fud a byddar y diweddar athraw Thomas Lewis. Dechreuais godi darnau o honi; ond ni fedrwn roddi llai na'r cwbl wedi dechreu. Darluniau. Derbyniwyd '' Pulpud Capel y Grlyn'' oddiwrth Ivon Tegid Jones; amryw ddarluniau o fywyd y Sipsiwn, yn enwedig darluniau o'u plant, gan L. E. Price; amryw ddarluniau o blant Cymry America. Ar Gomer. Anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad.