Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT V PLANT. •X- YDNABYDDAF gyda diolchgarwch y symiau isod anfonwyd at gof-golofn T. E. Ellis. Bydd yn dda gan y plant gael teimlo, ymhen blynyddoedd eto, eu bod wedi taflu eu tusw o flodau, megis, ar ei fedd, i ddangos eu serch tuag ato a'u parch i'w waith. s. c. Pennal, casglwyd gan David Davies, Cwrt ........8 4 Ton y Pandy, trwy Bichard Lewis, Y.H.............55 0 (John Howells, Llyfrwerthwr, 2/6; J. D. Jones, The Emporium, 51- ; David Thomas, 105, Primrose Street, 1/-; D. D. Davies, 145, Henry Street, 21- ; Geler Jones, Commerce House, 5/- ; D. M. Williams, Bryngelli, 2/6 ; Ellis Jones, Arolygydd Yswiriol, 21-; D. S. Thomas, 59, Henry Street, 21-; M. H. Heycock, 36, Dunraven Street, 1/- ; J. T. Lewis, Eirianfa, 5/- ; Llewelyn Evans, Commerce House, 5/-; Hugh Jones, Biver View, II- ; Tom Bhys, Cigydd, 2/6 ; David Evans, Bhys Street, Trealaw, 1/- ; Tom Evans, Llwynypia, 5/- ; David Morgan, Llwynypia, 1/-; Archie Jones, Maes y Coed, Trealaw, 21- ; Eichard Lewis, 10/6.) Plant Pwllheli, Pentre Celyn, Bhyd, Abertawe, &c. Daw eich daiiuniau yn y rhifynnau nesaf. Llenorion. Ymysg llyfrau newyddion y mis y mae'r rhai canlynol. Bhoddaf eu pris, a'r lle y ceir hwy,— Islwyn. Caneuon heb eu cyhoeddi o'r blaen, 1/6; B. E. Jones a'i Frodyr, Conwy. Adgofion Hiraethog am Michael Eoberts, 1/6 ; Hugh Evans, 444, Stanley Eoad, Lerpwl. Ann öripfiths, gan Elfed, 1/- ; Swyddfa'r Wasg Gymreig, Caernarfon. Ann Gripfiths. Casgliad cyflawn o'i holl waith sydd ar gael, -/3 ; Caernarfon, Llyfrfa'r Methodistiaid. Dymunwn alw sylw hefyd at lyfrau campus Ysgol Sul yr Anibynwyr am 1904,— llyfr y Parch. G. Penar Grifáths ar yr Actau, y Parch. D. H. Williams ar y Barnwyr, a'r Parch. J. Grawys Jones ar Hanes Iesu Grist. Swllt, grot, a dwy geiniog yw y pris. E. Drury. Y mae'r gân yn rhy hiri'r dalennau hyn; ni roddir lle i gân dros bedwar pennill os na bydd rhywbeth eithriadol iawn ynddi. Y mae awen yn y Eenillion,—rhyddid y mynydd, a swyn hanes. Ond nid yw y mesur a'r odl yn ollol ddifai. E. A. J. (Caernarfon). Mae'r erthygl yn un dda iawn; cedwir hi tan un o rifynnau yr haf.