Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. AL. Nid oes un ddadl i fod ar y mater,—y mae ysmygu yn wastraff, ac yn niweidiol i iechyd. Nid wyf am ddweyd dim am y rhai sydd wedi creu angen am dano iddynt eu hunain; ond dymunaf yn ddwys fod pob plentyn yn ymogel rhagddo. Bob y Wern. "Prnn yw'r enwocaf, Caerfyrddin ai'r Bala ? " Yn yr hen amser, Caerfyrddin oedd yr enwocaf, yn ddiau; yr oedd yn borthladd neu dref farchnad bwys- icaf Cymru. Yn ein dyddiau ni y mae y ddau le yn enwog, ac yn haeddu enwogrwydd. Yn y naill yr argraffwyd y Beibl Cymraeg cyntaf yng Nghymru; yn y llall y mae '■'.'" cartre'r Ysgol Sul. Amryw. Y mae llawer o rifynnau Cymru'r Plant yn awr yn brinion. Yr wyf yn cael llythyrau yn aml yn holi lle y medrir cael y rhifyn yma a'r rhifyn arall; drwg iawn gennyf nad oes gennyf amser i ateb pob un o'r llythyrau hyn. Y cyhoeddwyr sydd debycaf o'u meddu. Wrth chwilio am rifynnau 1 hyd 30 (Tonawr 1891 hyd Mehefìn 1894) anfoner at y Goruchwyliwr, Swyddfa Cymru, Caernarfon; ac wrth chwilio am rifynnau wedi hynny, anfoner at y cyhoeddwyr presennol. Os na cheir y rhifynnau felly, chwilier am danynt yn ail law. J\ T. E. (Ystumgwadneth). Y mae'r gân yn naturiol a dymunol '» iawn, ond y mae'n rhy hir. Ehaid crynhoi. E. Evans (Mardy). Cân felodaidd iawn, ond nid yw y syniadau yn ddigon eglur i blant. O. E. Diolch yn fawr am y rhestr newydd o blant Llanuwchllyn ddaeth yn aelodau o Urdd y Delyn. Bydd yr enwau yn un o'r rhifynnau nesaf. Un o Eifionydd. Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy yw y gyfrol ddiweddaf o Gyfres y Fil. Daw Dewi Wyn a Ehobet ab Gwilym Ddu yn eu tro. Yr oedd yn hen bryd i fardd duwiol Llanystumdwy gael llais eto. Ni chyhoedd- wyd ond ychydig iawn o'i waith o'r blaen, er ei fod wedi marw er dechreu'r ddeu- nawfed ganrif. Yr oedd yn hen pan yn marw, ac yn dywysog ymysg ei bobl. M. C. 1. Codir gwerth £13,000,000 o bytatws ym Mhrydain Fawr bob blwyddyn. 2. Y mae'r haint yn ddifrodlyd iawn; ambell i flwyddyn ddrwg, megis 1848 neu 1875, a eu hanner yn ddrwg. 3. Bu Uysieuwyr am flwyddyn gyfan yn gwylio achos y clwy ar y pytatws. Cawsant mai Uysieuyn anweledig oedd. Ond lladd hwnnw, ac y mae moddion priodol i hynny, daw'r pytatws yn iach. Bob. Nis gallaf broffwydo ar bwnc mor ddyrus. Ll. ab Llen. Diolch. Ystraeon byrion sydd wrth fodd plant. S. Yr wyf yn rhoddi o leiaf un erthygl anodd ei deall bob mis, er mwyn y plant ysgol.