Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. SWALD. 1. Daniel Owen yw awdwr y Dreflan. 2. Nid wyf yn cofìo ymha nofel Gymreig y daw desgrifiad o gweirio gwair. 3. Cewch ddesgrifiad o etholiad hen ffasiwn yn "Pickwick Papers" Dickens a "Handy Andy" Lover. Bon. Gellwch goelio'r morwr ddywedodd iddo weled rhew melyn a rhew coch. Y mae i'w weled yn nofìo ar y môr. Dywed gwyddonwyr mai mân greaduriaid deflir ar y rhew gan y tonnau sy'n gwneyd y lliw. Y maent yn rhy fach i'w gweled gyda'r llygad noeth, ond y mae llu dirifedi o honynt yn rhoddi lliw ar y peth a guddiant. Un o'r Dyffryn. Yr wyf yn bur hoff o liwiau gemau, ond ni byddaf yn hofH gweled dynion yn gwisgo modrwyau. Mae eisieu'r llaw o hyd at waith; ac y mae addurn ar y ffordd. Clywais y Parch. Michael D. Jones yn dweyd lawer gwaith,—" Os gwelwch fodrwy ar law gŵr 'n awr, gallwch bendeifynu fod rhyw wendid yn ei ben e'." Ond rhy arw yw dweyd hynny. L. 0. Nid wyf yn sicr prun yw'r pren uchaf yn y byd, ond yr wyf yn meddwl mai naill ai pren eucalyptus Awstralia neu Sequoia gigantea America. Mesurwyd y naill yn 478 troedfedd, a'r llall o 420 i 470. Hoff o Ddarllen. Ie, gwledydd rhyfedd iawn yw Corea a Thibet. Bydd hanes y ddwy wlad yn un o'r rhifynnau nesaf, os bydd y darluniau'n barod. Siluriad. Ym Mountain Ash (Aber Pe'nnar) y bydd Eisteddfod Genedlaethol y fiwyddyn nesaf. Sam Oa'r Dydd. Oes, y mae pysgodyn fedr fyw ar y tir. Ei enw gwyddonol yw Periophthalmus Kolreuteri. Ceylon, ac Ynysoedd India'r Dwyrain, yw ei gartref. Defnyddia ei esgyll fel traed, a medr neidio hyd wyneb dŵr neu dir. Bili Blaen y Cwm. " Prun yw'r enwad goreu yng Nghymru?" Bili druan, dyna gwestiwn! Nid oes yr un golygydd feiddia ei ateb, os na fydd ar fìn cych- wyn i Ganolbarth Affrig. Oes, y mae lle i blant mewn crefyddau heblaw Cristionogaeth. iad o deml yn Japan lle'r oedd allor i blant, a theganau a dillad Hu Gadarn Gwelais ddarluniad plant yn rhoddion arni Ben T. Nid oes yr un ysgrifennwr Saesneg da yn ysgrifennu "started" yn Ue " commenced " neu " began." Y mae defnyddio termau fel hyn yn arwydd, nid yn unig o absenoldeb arddull gain a choetb, ond o lacrwydd meddwl hefyd.