Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHIF. XIV. AWST, 1905. CYF. II HYN A'R LLALL. JESTYN a gwir angen galw sylw yr eglwÿsi ato ydyw testyn llythyr Cymanfa Sir Benfro.- "ZelGris"tionogol." Gallem dybied mae bychan iawn ydyw y gras hwn. Ceir llawer o ryw fath o zel, ond beth am ei ' Christionogaeth/ sydd bwnc arall. Cawn glywed ' Tafodau megis o dan' yn candemnio rhai pethau (ie hyd yn oed rhai pethau o osodiad Crist ei hun), ond edrychir yn ddigon cíifraw ar bechodau cyhoeddus. Beth yw esgeuluso moddion gras ar ddydd yr Arglwydd a'i dreulio i fyncd o gwmpas at ganu Eisteddfodol ? Byddai rhai o honom yn barod i gondemnio yn aruthr pe elai amaethwr a'i wair neu ei yd i ddiddosrwydd ar y dydd. Nis gallwn feddwl ÿ byddai hynny i'w gydmaru fel trosedd. Ac nis gallwn feddwl chwaith fod y Golff lawer pellach o'i dreulio fel y g-weddai i Gristionogion wneyd. Yn ol fel y traetha y Parch Jacob John, Beulah, yn y Llythyr, dyna reswm y goddefiad o hyn yn o gystal a rheswm bodolaeth hyn, yw diffyg Zel Gristionogol. Pryned pawb y Llythyr, ddarllened pawb ef, gall fod yn foddion agoriad llygaid i'r " Laodiceaid Cristionogol " cyn y cant eu " chwydu allan." , *** Yr ydym yn wir ddiolchgar i'r cyfeillion sydd yn cofio am y Piwritan o fis i fisj ac yn hyderus y gwnant bara yn mlaen yn y dyfodol. Mae ein Dosbarthwyr fyddlon hefyd yn ymdrechgar iawn g-yda'i gwaith. Byddai rhagor o hanesion Eglwysig- yn dderbyniol iawn !