Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Ehíf. 0.] EBRILL, 1855. [Llyfr IX. ŵrfptai ii ŵjẅrijjait* GRAS YN DDIGON YMHOB AMGYLCHIAD. Crtnodeb o Beegeth a draddodwtd gan y Paech. Eyan Lloyd, TREFFY1íîîOK. " Digon i ti fy ngras i." 2 Corinthiaid xii. 9. Un o brif orchestion y duwiolion yw gallu yruddiried yn ddiysgog yn nghyf- lawniad addewidion Duw i'w blant yn ngwyneb profedigaethau a themtas- íynau y fuchedd bresennol. Mae sefyll ûy ben bryn sicrwydd gyda phwyll ac ystyriaeth, yn un o orchestion penaf y prif dduwiolion. Nid sicr iawn yw neb o ddim yn y byd hwn; ond yn y byd a ddaw nid oes dim yn ansicr: yno ni chaiff y duwiol mo'i ofidio gan ofnau ac ammheuon, ac ni chaiff y colledig mo'i sirioü gan lais gobaith. Mae sicrwydd i deyrnasu tu draw i'r bedd, ac efe a deyrnasa yno byth ymhob mynwes. Yn y byd hwn ni chyfar- fyddir âg un mor dduwiol fel y mae uwchlaw ofni ac ammheu yn fynych; nac â neb mor annuwiol fel y mae islaw gobeithio am ddedwyddwch. Ond yn angeu bydd gobeithion yr annuwiol yn darfod, ac ofnau y duwiol yn ei adael. Dyma fydd y nefoedd—cael byw mewn awyr bur a sanctaidd heb ofni nac ammheu; a dyma fydd uffern—gor- fod bod mewn trueni heb obaith byth cael gwaredigaeth o hono. Mae o werth ynte i ni ymholi pa un ai ein hofnau ai ein gobeithion fydd yn ein gadael yn angeu. Yn y fuchedd hon cyf- newidiol iawn yw profiadau pawb; mae pawb yn gobeithio a phawb yn ofni ar brydiau. Fe allai mai daioni yw fod pob peth mor gyfhewidiol yma, oblegid yn un peth, nis gallwn ddal llawer o'r un fath deimlad. . Nis gall neb o blant dynion ddal llawer o lawenydd nallawer o dristwch digymysg; mae fiiam bywyd llawer wedi cüffoddi mewn awr o lawen- Cyfres Newydd. ydd, neu o dristwch nerthol. Felly goruchwyliaethau cyfnewidiol sydd oreu i bawb yn y bywyd presennol. Mae oes dyn fel ped edrychid ar gwch yn croesi yr afon ar ddiwrnod ystorm- us. Gellid meddwl ar brydiau wrth sylwi, y dymchwelai ar ei wyneb pan ar frig y dòn, ond fe'i gollyngir ef i lawr i'r pant sydd rhwng dwy dòn, ac yno fe ymsefydla ychydig i gyfarfod â'r dòn nesaf,ynabyddynbarodeilwaithiesgyn y dòn hono, ac yn y cyffelyb fodd y bydd ar ei brig hithau, a gollyngir ef i lawr rhwng dwy dòn eilwaith, ac felly y bydd nes y cyrhaeddo drosodd yn ddyogel. Gwelir duwiolion bron dyrysu ar rai prydiau gan helyntion y bywyd pres- ennol; ond cyn darfod am danynt, mae gwaredigaeth yn dyfod,acfelly o brofed- igaeth i waredigaeth, ac o waredigaeth i brofedigaeth, fe eir trwy brofedigaeth- au a thros dònau afon amser heb golli na dyrysu, trwy ymddired yn yr Hwn sydd wrth y llyw. Llawer cargo a suddodd i'r môr, ond bydd afon amser yn sicr o drosglwyddo ei llwythi tros- odd ar lànau môr tragywyddoldeb. Mae dyn i fodoli byth mewn byd ar ol hwn; er holl helynt ei daith i'r byd arall, cyrhaedda yno beth bynag fydd ei sefyllfa naturiol neu foesol a chrefyddol, a cherfir yn annilëadwy ar ei feddwl wirioneddau y byd ysbrydol yn ei sefyllfa anghyfnewidiol a thragywydd- ol. Yn wyneb hyn, hyfryd yw meddwl fod yn nhrefn yr efengyl ddigon tuag at fod yn ddedwydd byth yn y byd hwnw, a digon at fyned yn gysurus trwyybydhwn. "Digonitifyngrasi.'