Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehif. CVIL] TACHWEDD, 1855. [Llyfr IX. EGLWYS CRIST Yìs EGLWYS GENADOL. SYLWADAU A DRADDODWYD » GAN Y PARCH. JOHN PARRY, BALA, Yn Nghtmdeithasfa Pwllheli, Medi 13, 1855, ab tb achltsub o oedeiniad t Pabch. Robeet Paeet, eel Cenadwr i'e India. Ioaîî xvii. 18 : " Fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr anfonais innau hwytb.au i'r byd." Y PETH eyntaf a wnaeth Iesu Grist ar ol dechreu ei weinidogaeth gyhoeddus oedd galw ei ddysgyblion ato ei hun ; a'r peth diweddaf a wnaeth ar ol gor- phen m waith cyn ymadael â'r ddaear oedd euhanfon allan i'r byd. Galwodd hwynt ato i fod yn ddysgyblion idclo,— i ddysgu ganddo,—i'w ddilyn ; ac an- fonodd hwynt allan yn apostolion, neu yn genadon drosto i gyhoeddi ei enw yn wrthddrych ymddiried i'r byd. Yr oedd amgylchiadau neillduol yn ngalw- ad ac anfoniad yr apostolion. Galwyd hwynt gan Grist yn bersonol, ac anfon- wyd hwynt ar y neges neillduol o ddwyn tystiolaeth i'w adgyfodiad. Ond yn yr amgylchiadau yn unig yr oedd y neillduolrwydd. Nid i'r apostolion yn unig y perthynai gael eu galw, ond eu galw gan Grist yn bersonol; ac nid i'r üpostolion yn unig y perthynai derbyn ymddiried, a chael eu hanfon, ond eu hanfon i ddwyn tystiolaeth i weithred- oedd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu, a chymeradwyaeth ei Dad iddo yn y cwbl. Mae y ddau beth yma yn wir am holl ganlynwyr Crist—cael eu galw ato, a derbyn ymddiried ganddo. A'r ddau beth hyn sydd yn gwahaniaethu eglwys Crist oddiwrth bob cymdeithas arall yn y byd. Mae hi yn wahanol yn ei tharddiad i bob cymdeithas arall; mae wedi ei Cyfees Newydd. galw. Hyn sydd yn gwneyd ei bod yn eglwys i Grist. Nid ynddi ei hunan j mae y gallu sydd yn dwyn ei haelodau at eu gilydd, ac yn eu cadw mewn un- deb â'u gilydd, ond yn ngrym y cariad sydd yn eu dewis ac yn eu galw. Mae dysgyblion Crist yn wahanol i ddys- gyblion dysgawdwyr eraill. Yn eu mysg hwy, y dysgyblion sydd yn dewis yr athraw ; " ond nid chwi a'm dewis- asoch i," medd Crist, "ond myfì a'ch dewisais chwi." Mae hi yn wahanol hefyd yn ei ham- can. " Ac a'ch anfonais fel yr elech ac y dygech ffrwyth." Mae hi yn derbyn ymddiried gan Grist, a'r ymddiried hwnw ydyw cymeryd i fyny, a gweithio allan, amcanion Crist ei hun yn y byd. "Fel yr anfonodd y Tad fi, felly yr wyf fi yn eich hanfon chwi." Hyn sydd yn gwneyd fod eglwys Crist yn eglwys genadol. Mae boä yn eglwys i Grist a bod yn eglwys genadol, yn anwahanol â'u gilydd. O herwydd nid yw Crist yn galw neb ato ei hun heb roi ymddir- ied iddo,—^heb ei anfon. Mae hyn yn codi o naturyrundeb sydd rhyngddo ef â'i bobl. • Y mae yn eu galw i fod yn eiddo iddo,— i fod yn un âg ef. Mewn trefn i hyn, daeth Ef yn un â hwy yn y cwbl a berthynai iddynt, a gosododd hyn sail iddynt hwythau gael eu gwneyd h h