Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rv í Y DEYSORFA. Rhip. CLXII.] MEHEFIN, 1860. [Llyfr XIV. ẅrfijnto. YE ADDYSG OREÜ. PREGETH GAN Y PARCH. WILLIAM MORRIS, TYDDEWI. Psalm li. 13: " Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir, a phecnaduriaid a droir atat." Ehan o ddy wediadau Dafydd mab Jesse, wrth Dduw, yw y geiriau hyn. Un yn sefyll yn lled unigol ymhlith dynolryw ydoedä y gŵr hwnw. Yr oedd efe yn un anarferol, yn un peth, o ran ei godiad o iselder i uchder mawr yn y byd. O fod yn fugail defaid, dyrchafwyd ef yn îrenin ar holl Israel. Cawn ef yn cydnabod hyn ger bron Duw yn dra thoddedig: "Pwy ydwyf fi, 0 Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit ë hyd yma ? Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O Dduw; canys dywedaist am dy was dros hir amser, a thi a edrychaist arnaf, O Arglwydd Dduw, fel ar gyflwr dyn uchelradd." Yr oedd efe hefyd yn hynod a neillduol o ran ei sefyllfa yn eglwys Dduw. Yr oedd yn Jbrophwyd, ac yn beraidd ganiadydd Israel. Bydd Llyfr y Salmau yn golofn o goffadwriaeth am dano tra paro dyddiau y ddaear. Mae Llyfr y Salm- au yn meddu rhyw arbenigrwydd ac unigolrwydd, hyd yn nôd yn y gyfrol a roddwyd oll trwy ysbrydoliaeth Duw. A chyda hyn, y mae efe yn nodedig am ei gwymp echryslawn. Pwy na wylai yn yr olwg athrist! Mewn cysylltiad â'r achos galarus hyny y mae ein tes- tun. Un o salmau edifeiriol Dafydd ywysalmhon. Mae hanes syrthiad y gŵr mawr hwn, yn dysgu î ni amryw wersi tra phwysig; megys yn ' 1. Nad ydyw dyn, ie y goreu o ddyn- ion, ond gwan yn ngwyneb rhuthr Ẃwwatau, a phicellau Satan. Dyma ŵr a welwyd yn ddigon o feistr ar lew ac arth, ac ar Goliah y cawr o Gath, yn awr o dan draed ei chwant ei hun. "Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio." Wrth weinidog ieuanc, yn yr hwn yr oedd y ffydd ddiffuant yn ddiammheu, ac oedä yn amlwg yn ŵr Duw, y dywedwyd, . "Chwantau ieuenctyd, fíb oddiwrth- ynt." A rhai y gwyddai Pedr eu bod yn sefyll yn ngwir ras Duw a gy- nghorid ganddo, "Anwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi, megys dyeithriaid a phererinion, ymgedwch oddiwrth chwanta,u cnawdol, y rhai sy yn rhy- fela yn erbyn yr enaid." 2. Y mawr anghen sydd o wyliadwr- iaeth bob moment. Wrth i Dafydd rodio yn segur ar nen ei dŷ, y cafodd yr heliwr uffernol y fantais o ollwng y saeth i'w galon. Taflodd y tân, ac ennynodd y powdwr. "Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedig- aeth." " Byddwch sobr, gwyliwch; oblegid y mae eich gwrthwynèbwr diafol megys llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyncu." Pan ddelo y temtiwr, caffed di yn gweithio, oedd cynghor Luther. 3. Mai peth ofnadwy ydyw pechodi Er na ddemnir y duwiol o'i achos, eto efe a wna ei wely yn foddfa, ac a ddwg gleddyf i'w dŷ, yr hwn nid ymedy hwyrach dros ei holl ddyddiau. Cilio oddiwrth y drwg hwn sydd ddeall. Na ryfyged neb oddiwrth yr adroddiadau