Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehif. CLXV1I.] TACHWEDD, 1860. [Llyfr XIV. ŵartliata. MARWOLAETH AO adgyfodiad yr arglwydd iesu yn ben- DERFYNIAD AR ACHOS Y BYD. GAN Y PARCH. GRIFFITH HUGHES, EDEYRN. Ioan xii. 31, 32 : " Yn awr y mae barn y byd hwn ; yn awr y bwrir allan dywysog 'y byd hwn. A minnau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun." Buasai yn anhawdd i ni wybod meddwl yr Arglwydd yn y geiriau hyn, oni bae fod esboniwr anffaeledig wedi dangos yn yr adnod nesaf iddò eu llefaru " gan arwyddo o ba angeu y byddai efe farw." Yr hyn a arweiniodd yr Iesu i'w llef- aru oedd y llef ddyeithriol hono o'r nefoedd mewn atebiad i'w weddi am i'w Dad ogoneddu ei enw yn ei farwol- aeth ef; er fod natur ddiniwed yn cyn- hyrfu mewn arswyd yn y rhagolwg ar hyny. Haerai rhai oedd yn clywed, nad oedd dim anghyffredin yn y llef, ond mai taran oedd. Eraill a ddywed- ent mai angel a lefarodd wrth yr Iesu, a hyny er ei gysuro a'i galonogi. Dv- wed ein Harglwydd nad oedd raid iddo ef wrth hyny, ac mai eu hachos hwy oedd yn galw am i Dduw gyfryngu felly yn eu clyw. Dengys fod pob ymdrin rhyngddo ef â hwy yn y wedd oedd wedi bod hyd hyny ar derfynu, a bod chwyldröad perffaith ar gymeryd lle yn y byd, ac ar ei breswylwyr. Nid barn oondemniad a gyhoeddir yma ar y byd, eáthr penderfyniad ar ei Achos: pa un ai Crist ynte y diafol fyddai ei berchen a'i dywysog o hyny allan. "Bwrw allan dywysog y byd hwn," ydyw "dattod gweithredoeda y diafol," neu ddinystrip «i lywodraeth; a hyny trwy "dynu" éi ddeiliaid ef, neu ddwyn eu calonau hwy, ^to ei hun. Yr oedd yn briodol dy- wedyd fod diwedd pob cnawd wedi dyfod yn y diluw, er fod wyth enaid wedi eu hachub, Felly, " tynu pawb " at y Gwaredwr fydd denu y llîaws ato ef, er y dichon y bydd gan Satan wedi hyny ambell un yn ei feddiant. Ac ni bydäai raid i ni ganiatâu nac ofni hyny, gan yr addawa yr lesu dynupawb ato ei hun. Yr oedd hyn oll yn dibynu ar groeshoeliad ein Harglwydd; ac nid " os " o ammheuaeth oedd hyny, eithr yn gadarnhäol y llefarai am ei angeu fel yn anocheladwy; a chan y byddai iddo ef farw, mae yn dangos y deuai canlyniadau pwysig a daionus i hyny. I. Edeyohwn ar gyflwr y byd yn EI BERTHÎNAS A SaTAN, YR HWN A ELWIR GAN EIN HARÖLWYDD YN "DY- WYSOG Y BYD HWN." Braidd yr oedd neb cyn dyddiau ein Hiachawdwr yn.ddigon hŷf i ymholi yn achos hawliau y diafol, a pha fodd y daeth i'r fath awdurdod. Eithr wedi barnu tywysog y byd hwn, mae Ysbryd Crist yn argyhoeddi y byd o hyny, er perswadio trigolion daear i ymadael â'i deyrnas ef. O'i ran ef ei hun, mae wedi dyfod i'w lywodraeth trwy dwyll a dichellion. Daeth i mewn yn heddychol, ac.ymafl- odd yn y freniniaeth trwy weniaith» Anwiredd ydoedd dechreuad ei uchaf- iaeth; ao fel pob gormeswr, mae yn dallu meddyliau ei deiliaid hyd y galio- Mae "y dyn pechod " yn wir ddelw e? dad diafol yn hyn. Arfera bob hynaws-» edd ac addfwynder er hudo dynion 4 h h