Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehip. CXXVIL] GORPHEXAF, 1857. [Llyfr XI. ŵaítjjntaît ii tënlẅrfjîaii. Y CYNGHOH A draddodwyd i'r Brodyr a ordeinid yn Nghymdeithasfa Llangefni, Mehefin 4, 1357, GAN Y PARCH. DAYID JONE3, CAERNARFON. Anwyl Frodyr,—Yr ydjch yn sefyll yn bresennol mewn amgylchiad new- ydd, yr hwn sydd yn eich. cyfodi i fwy o sylw y cyffredin nag yr oeddych o'r blaen. Ac y mae yn ddiammeu genyf eich bod yn teimlo oddiwrth yr am- gylchiad. Doethineb ydyw edrych ar bob amgylchiad yn ol ei wir deilyng- dod. Fe ellir gosod y gwaith o ordeinio yn ein mysg uwchlaw ei seíÿllfa briodol; trwy edrych ar weinyddu yr ordinhad- au, sef bedydd a swper yr Arglwydd, fel y rhan fwyaf pwysig yn ngwaith gwein- idog yr efengyl. Mae yn amlwg fod y cyfryw syniad yn anghywir, ac o duedd i gymylu pwysigrwydd y gwaith o ef- engylu—y gwaith o fynegi holl gynghor Duw, gan iawn gyfranu gair y gwirion- edd. Dyma y rhan fwyaf pwysig yn ngwaith gweinidog yr efengyl : per- Bwadio dynion i dderbyn y cymmod; agoryd eu llygaid a'u troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant satan at Dduw. Felly yr oedd yr apostol Paul yn deall ei swydd: " Canys nid anfonodd Crist fi i fedydâio, ond i efengylu ;" gan ystyr- iecl efengylu yn rhan bwysicaf o'i waith. Yr un pryd, y mae pwys mewn or- deinio fel hyn yn ein plith; neillduo i holl waith y weinidogaeth—yn gyflawn weinidog yr efengyl yn y cyfundeb hwn o Gristionogion. Wrth ddechreu preg- ethu, yn gyffredin, mae y dyn yn ym- gymhell, a'r eglwys yn cydsynio; ond wrth ddewis i ordeinio, yr eglwysi sydd yn cymhell, a'r pregethwr yn cydsynio â'r alwad. Mae y neillduad hwn yn cyfansoddi rhyw berthynas arbenig rhyngoch âg anrhydedd a llwyddiant yr efengyl yn nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Yr ydych yn awr yn gyf- lawn weinidogion yr efengyl yn eumysg. Felly yr edrychir arnoch ymhob cyfeill- ach neu gymdeithas ag yr eloch iddi, ac yn eich holl ymdriniaeth â'r byd. Chwi a fyddwch ymhob man ag yr eloch iddo fel yn cynnrychioli y Methodist- iaid Calfinaidd; ac edrychir ar eich ymddygiadau yn eglurhâd ar ansawdd chwaeth a barn yn yr enwad yma o Gristionogion. Mae y neillduad hwn yn eich rhoddi mewn gwell cyfleusdra i'ch ymddygiadau doeth a da effeithio i ddyrchafu y Corff yn ngwydd y byd. A'r un cyfleusdra hefycl abarai i gamym- ddygiad o'r eiddoch fod yn fwy effeith- iol i'w iselhâu ac attal ei lwyddiant. Gellir dywedyd fod y neillduad hwn arnoch i waith y weinidogaeth yn ych- wanegu at eich llafur. Heblaw pregethu, rhaid i chwi weini yr ordinhadau : wedi blino, rhaid bedyddio a chyfranu swper yr Arglwydd. Yn nheyrnas Crist mae dyledswydd yn perthyn i fraint, ac mae braint hefyd yn perthyn i ddyledswydd. Mae yn ofynol fod gweinidog yr efeng- yl yn deall yr ordinhadau yn dda: deall eu hanes a'u dybenion; deall eu cysylltiadau athrawiaethol, a'u hystyr ymarferol; oblegid mai eu hystyr ath- rawiaethol y w nerth eu hystyr ymar- ferol, a'u hystyr ymarferol yw dyben