Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCXXXI.] MAWRTH, 1866. [Llyfr XX. ferijpta u &hxoWvùìm. GOLYGIADAU CYFEILIORNUS AR LYWODRAETH DUW YN CAEL EU CYWIRO YN Y BIBL. GAN Y PARCH. J. HUGHES, LIVERPOOL. I. O holl wirioneddau crefydd, nid oes odid un ag yr ewyllysiem weled ein cydgenedl wedi ei chadarnhâu mewn golygiadau addas arno yn fwy na Llyw- odraeth Duw ar y byd—natur ei berth- ynas â'r grëadigaeth yn gyffredinol, ac â dyn yn neillduol; oblegid, yn un peth, y mae y gwirionedd hwn yn sefyll mewn perthynas arbenig â holl wirioneddau crefydd: mae i'w olygu fel rhwymyn neu wregys yr holl gyfundraeth, yn hytrach nag fel un gwirionedd ymysg eraill. Mae ein syniadau ar y mater hwn yn gyfryw fel ag i lunio a lliwio ein golygiadau ar holl athrawiaethau crefydd, ac nid yn unig arnynt hwy, ond hefyd ar faterion eraiìl, hyd yn nôd ar wleidyddiaeth. A pheth arall, heblaw ibd y gwirionedd hwn yn bwysig ynddo ei hun, ac felly ýn bwysig ymhob oes, y mae agwedd meddwl gwledydd crêä gyda golwg arno yn yr amserau pres- ennol yn gyfryw fel ag i wneuthur pob ymchwiliad iddo yn dra amserol. Os nad ydym yn camsynied, y cwestiwn hwn, yn y naill neu y llall o'i amrywiol gysylltiadau, ydyw prif gwestiwn yr oes. Mewn gwadiad o lywodraeth Duw, nid mewn gwadiad uniongyrchol o'r Bôd o hono, y mae anghredaeth yn dyfod i'r golwg yn benaf. Mae yn dadguddio ei hun, nid mewn diystyrwch o Grist- ionogaeth, nid mewn cais i'w gwneuthur yn wrthddrych gwawd, neu i'w phrofi yn grefydd dwyllodrus, ond mewn cais i'w hyspeilio o'r goruwchnaturiol; eithr y mae y rhai a wnânt hyn yma yn fodd- lawn i'w hystyried fel cynnyrch goreu natur. Ni warafunant iddi y Ue mwyaf anrhydeddus o fewn holl diriogaeth na- tur; ond amcanant ein perswadio nad yw ei haniad yn uwch na natur. Nid yw hi na dim arall yn perthyn i diriogaeth y goruwchnaturiol; a rheswm da pa- ham; nid oes y cyfryw diriogaeth mewn bod; yr unig hanfodiad a fêdd ydyw hanfodiad o fewn dychymyg ofhus ac ofergoelus y dosbarthiadau iselaf o ddynobryw. Nid oeddem, wrth ddadgan y dymun- iad uchod, yn bwriadu awgrymu fod syniadau croes i'r gwirionedd ar Lyw- odraeth Duw yn ffynu hyd yn hyn yn ein mysg; eto mae yn ddiammheu ein bod fel cenedl mewn perygl oddiwrth gyfryw syniadau. Byddai meddwl yn wahanol yn brawf o anwybodaeth; a gweniaeth be'ius fyddai dywedyd nad oes berygl pan y mae yn amlwg fod perygl. Mae pawb sydd i ryw fesur yn gydnabyddus â meddwl ac ysbryd yr oes yn barod i addef mai gwadiad o lyw- odraeth Duw ydyw y cyfeiliornad sydd yn ymledu yn fwyaf cyffredinol, yr hwn sydd yn lefeinio meddyliau dynion yn ddiarwybod, yn treiddio yn ddirgelaidd trwy syniadau rhan fawr o boblogaeth Ewrop ac America, nid yn unig ar gref- ydd ond ar bob mater arall. Dywedodd un o'r dynion mwyaf yn y byd rai oes- oedd yn ol—Leibnitz—yn yr olwg ar ddirgelwch yr anwiredd yn gweithio yn