Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. COXXXII.] EBRILL, 1866. [Llypr XX. îmtjpjfom u &koòìnûwx. YSBRYD MADDEUGAR. GAN Y PARCH. THOMAS HUGHES, RENCHESTER. "Ac felrjr y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonau bob un i'w frawd eu camweddau."—Matthew xviii. 35. Y mae yn hawdd canfod fod rhinweddau a dyledswyddau Cristionogol yn cael lle mawr iawn yn ngweinidogaeth Iesu Grist a'r apostolion. Nid athrawiaethu ar brif bynciau crefydd yr oeddynt yn unig nac yn benaf. Yr oeddynt yn addysgu eu gwran- däwyr yn ngwirioneddau sylfaenol y ffydd gristionogol; ond wrth wneyd hyny yr oeddynt yn dysgu pa ryw fath ddynion a ddylasai eu gwrandäwyr fod mewn sanct- aidd ymarweddiad a duwioldeb. Llefaras- ant yn ddifloesgni ac yn y modd mwyaf grymus yn erbyn cenfigen, eiddigedd, hun- anoldeb, a dygasedd; ac annogasant bawb yn daer a diflino i arddangos hirymaros, cymwynasgarwch, addfwynder, gostyng- eiddrwydd, a chariad. Y mae y Bibl ymhob man yn rhoddi y pwys mwyaf ar fod rhinweddau cristionogol yn addurno ein cymeriadau—ar fod y dduwiol anian yn dyfod i'r golwg yn ein hymddygiadau tuag at ein cyd-ddynion. "Am hyny pa bethau bynag oll a ewyllysîoch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy; canys hyn yw y gyfraith a'r prophwydi." Nid peth i'w chredu yn unig yw crefydd Crist, ond peth i'w byw ydyw. Fid ydyw wedi ei hamcanu yn unig ar gyfer marw a thragywyddoldeb, eithr hefyd ar gyfer y bywyd sydd yr awr hon. Y mae yn ein cymhwyso i'r nefoedd trwy ein dysgu i rodio yn addas megys wrth liw dydd, a gwisgo am danom yr Arglwydd Iesù Grist. Dylem fodyn bryderusnidynghylchmyned i'r nefoedd, ond ynghylch byw i'r Hwn a fu farw drosom—gogoneddu Duw yn ein corff ac yn ein hysbryd, y rhai sydd eiddo Duw —cyflawni yn flyddlawn y dyledswyddau perthynol i'n galwedigaeth, ac ymddwyn yn briodol tuag at bob dyn fel y gogon- edder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynom ni. "Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithred- oedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd." Amlyga crefydd Crist ei hun yn ysbryd ei pherchenog. Y mae y dyn gwirgref- yddol yn meddiannu nid ysbryd y byd ond yr ysbryd sydd o Dduw. Ysbryd an- hynaws, cynhyrfiol, anymarhöus, llidgar, anghymmodlawn, ac anfaddeugar, ydyw ysbryd y byd; ond ysbryd hynaws, ymar- höus, caredig, a maddeugar, ydyw yr ysbryd sydd o Dduw. Teimla y dyn anianol yn anesmwyth hyd nes y bydd iddo gael cyf- lëusdra i ddial y cam neu y sarhâd a gafodd neu a dybiodd a gafodd; ond dyoddefa y dyn ysbrydol yn amyneddgar pan lefara ei elynion ddrwg am dano, a phan weithred- ant yn ddrygionus i'w erbyn. "Nid yn talu drwg am ddrwg i neb, ond yn wastadol yn dilyn yr hyn sydd dda." Y mae Iesu Grìst yn rhoddi mawr bwys ar ein bod yn meithrin ac yn amlygu ysbryd maddcugar. Darfu i Simon Pedr unwaith ofyn i Iesu Grist, "Pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn ac y maddeuaf iddo ? ai hyd seithwaith?" Hwyrach fod Pedr wedi cael ei glwyfo gan rai o'i frodyr yn y ddadl a fu rhyngddynt ar y ffordd ynghylch pwy a fyddai fwyaf. Fe allai ei fod wedi cael ei gyhuddo amryw weithiau o hyfdra gormodol, a bod ei barodrwydd yn ateb Iesu Grist ar bob achlysur yn codi oddiar amcan isel a gwael, sef awydd bod y mwyaf. Ac hwyrach fod y cyhuddiadau yn awr ac eilwaith yn cael eu dwyn i'w erbyn tra yn