Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DIÌYSORFA. Rhif.#CCXXXIII.] MAI, 1866. [Llyfr XX. SDr&etjwta kc &ìtxaWvùw. CYNGHOR GWEINIDOGAETHOL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN JONES, TALYSARN. Traddodedig ar Ordeiniad Saith o Bregethwyr yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 16, 1841. Ye oedd yn bur anhawdd genyf gymer- yd y gorchwyl hwn mewn llaw, gan fy mod yn fy ystyried fy hun ar lawer golygiad yn anghymhwys iddo. Ni cheisiaf ond dywedyd ychydig o bethau eglur a syml er mwyn ceisio cyffroi fy mrodyr hyn, a'm calon fy hun hefyd, i ddyfalwch am fod yn brofedig gan Dduw, i weithio yn ddifefl, ac iawn gyfranu gair y gwirionedd. Byddaf yn meddwl yn wastad gyda golwg ar weinidogaeth yr efengyl mai peth o'r pwys mwyaf yw bod pregethwr yn dduwiol. Pa un bynag fyddo ai llai na'r lleiaf neu fwy na'r mwyaf, ni bydd yn gymhwys i efengylu anchwiliadwy olud Crist heb ei fod yn un o'r saint. Mae yn anghenrheidiol i'n gweinidog- aeth darddu oddiar egwyddor o gariad ; cariad tuag at Dduw—tuag at Grist—a thuag at eneidiau dynion. Yr oedd Paul yn sicrhâu mai felly yr oedd efe a'i frodyr: "Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell ni,"—yn ein rhoddi yn nerthol ar waith; yn ein cario fel llif- eiriant mewn zel gyda gweinidogaeth y cymmod. Yr oedd yr Arglwydd Iesu gyda phwys mawr yn holi Simon Pedr, "A wyt ti yn fy ngharu i?" cyn rhoddi aiars arno i borthi ei ŵyn, ac i fugeilio a phorthi ei ddefaid. Nid yw ond peth y gallesid ei ddysgwyl fod yr Ar- glwydd yn cyfyngu y weinidogaeth i olal y rhai hyny sydd yn ei garu ef. Gwaith pregethwr yw traethu cy- nghor Duw—rhoddi goleuni gwybod- aeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist—tystiolaethu i'r byd am garitor Duw. Nid yw yn debyg y caiff caritor y Jehofah chware teg ar law y dyn hwnw nad yw yn ei garu. Mae yn na- turiol iawn i gariad ganmawl ei wrth- ddrych; gwna hyny yn bur rhwydd, heb eisieu ei ddirgymhell. Gwaith pregethwr yw, taenu'r wybod- aeth am lesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio—ei gyhoeddi yn ei Berson, ei swyddau, ei aberth, a chyflawnder ei ras—ei ganmawl fel Gwaredwr wrth bechaduriaid. Ac nis gall neb wneuth- ur hyn yn briodol ond y sawl sydd yn ei garu. Os gall pregethwr ddywedyd o'i galon am y Cyfryngwr, "Fy Anwyl- yd," fe fydd yn hawdd iddo yna ddy- wedyd yn gynhes ei fod Ef yn " wỳn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil." Gwaith pregethwr y w perswadio dyn- ion—eu cymhell i ddyfod i mewn fel y llanwer tŷ yr Arglwydd ; a pherswadiwr rhagorol yw cariad. Dyma fel y mae Duw ei hunan yn perswadio pechadur- iaid i ddyfod ato ac i lynu wrtho: y mae yn eu hennill âg amlygiadau o'i gariad rhad anfeidrol. Gollynged ei gyfraith gyfiawn i ddal ac i gostd yr euog, ac íe galeda hyny y galon becn- adurus mewn gelyniaeth at Dduw'r farn; ond gollynged ei gariad i faddeu i'r troseddwr ac i ymgeleddu'r truan, a dyna'r galon yn ymdoddi mewn edif'eir- wch yn y fan. Mae'r pregethwr wrth. ei swydd yn rhoddi benthyg ei dafod i