Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Ehif. 487.] MAI, 1871. [Llyfr XLI. Y DDEDDF A'R EFENGYL. GAN Y PAECH. JOHN FOULRES, CARMEL. Y mae y mater hwn yn dwyn. cysyllt- iad agos â'r amlygiadau helaethaf o Dduw ac iachawdwriaeth dyn colledig. Ni raid profì mai Duw ydyw Awdwr y ddeddf a'refengyl, ondnid ynhollol yn yr un mocld. Mae rhai pethau yn tarddu o anghenrheidrwydd natury Je- hofah ; nis gallent beidio bod yr hyn ydynt. Maent yn gorwedd yn ddwfn yn natur Duw. Mae pethau eraill yn tarddu o ewyllys Duw. Buasai Duw yn anfeidrol gyfiawn, sanctaidd, doeth, a da, byth, pe na buasent yn bocí. Nicl ydym yn sôn am y pethau hyny mewn cysyiJtiad âg arfaeth Duw, ond mewn cysylltiad â'i natur. Mae y pethau hyn yn tarddu o ewyllys Duw. Nid oeäd raid iddynt fod oblegid fod natur ddi- gyfnewid y Duw mawr yn galw am danynt, ond oblegid ei fod wedi eu hewyllysio. Meddylier am ddeddfau natur ; ewyllysia y deddfau hyny a wnaeth Duw. Y mae yn llywodraethu ei gröadigaeth fawr drwy ddeddfau; y mae wedi gosod deddf i'r haul—i'r môr —i fellt y taranau—i'r gwynt; llywodr- aetha ei holl grëaduriaid trwy ddeddfau. Dewis y deddfau hyn a wnaeth Duw ; ac fel y mae bye-laws cwmniau mawr yn ddarostyngedig i'r prif ddeddfau, y mae holl ddeddfau naturyn ddarostyngedig i ddeddf natur Duw. Y mae gweith- rediad deddfau natur wedi ei attal ar adegau; y mae y môr wedi myned yn sychdir, a'r dyfroedd wedi hollti—y tân wedi pallu Uosgi—y crëadunaid rhèibus wedi bod yn ddiniwed—yr haul wedi aros, a'r lleuad wedi sefyll; a daw y diwrnod y bydd dedclfau natur yn pallu, a'u nerth wedi cilio. Ewyllys Duw a roddes iod iddynt, a'r ewyllys hono a rydd derfyn ar eu gweithrediadau. Yr oedd cleddf Duw yn natur Duw erioed. Yr oedd y dcleddf a argraff- wyd ar galon dyn pan gröwyd ef, ac a gyhoeddwyd drachefn ar Sinai mewn deg o orchymynion, yn gorwedd yn ddyfnach nag yn ewyllys Duw; yr ydoedcl yn ei natur—yn un â Duw erioed. Hyny ydyw, yr oedd yr hyn ydyw y Duw mawr yn ei rwymo (os goddefir yr ymadrodd) i roddi y ddeddf hon i'w grëadur moesol. Os crëai Duw grëadur moesol, cyfrifol, yr oedd yn rhaid rhoddi dedclf, dr ddeddfhon, iddo. Nid ydym yn deall fcd dim yn natur y Duwclod yn gwneuthur crëu yn beth oedd yn rhaid fod; ewylbysio crëu wnaeth Duw,—ewyllysio crëu dyn ; ond ar ol crëu, yr oedd deddf y crëadur yn barod, megys, yn natur Duw. Deddf Duw gan hyny yw yr hyn sydd er tragywyddolcleb yn gwahan- iaethu rhwng da a drwg; a charem egluro yma mai nid eimjllysio y gwahan- iaeth hwn a wnaeth Duw: nid ewyll- ysio y gwahaniaeth fel y mae dynion yn deall ewyllysio, ond ei ewyllysio obîegidfod yn rhaid iddofod. Mae îiyn yn rhoddi golwg gynhyrfus ar bechod, —fod y gwahaniaeth rhyngddo â rhin- wedd a daioni wedi ei wneuthur er tragywyddoldeb. Yn wir, y mae sôn am wneuthur gwahaniaeth yn anmhr'i- odol. Nid oes eisieu gwneyd gwahan- iaeth—yr oedd yn bod erioed; yr oedd yr hyn ydyw Duw yn gwneyd y gwa- haniaeth. Felly mae y gwahaniaeth rhyngddynt yn dragywyddol a digyf- newid. Pe ewyllys Duw yn unig fuasai yn gwneyd y gwahaniaeth, ni buasai un gwahaniaethoanghenrheidrioyddynbod ; ond gan fod y gwahaniaeth yn bod o anghenrheidr wjdà natm- erioed, by dd yn