Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Rhif. 488.] MEHEFIN, 1871. [Llyfr XLI. EGLWYS WEITHGAE. GAN Y PARCH. ROBERT ELLIS, YSGOLDY, ARFON. Buom amser yn ol yn ceisio galw sylw darllenwyr y Drysorfa at Egliuys Drefnus. Ond ni chawsom yr un fan- tais i ddeall a fu hyny o lafur yn werth sylw mewn unrhyw gylch, heblaw ddarfod i ryw nifer ddarilen ein llith- oedd, a dyna'r cwbl. Ond gwyddom fod llawer o ryw annhrefn yn aros o hyd, a hyny o ddiffyg talu mwy o sylw i lîaws o bethau y buom yn ceisio galw sylw atynt. Bydded a fo am y sylw, gyda chenad y Golygydd, ni a flinwn ddarllenwyr y Drysorfa âg ysgrif neu ddwy, neu ragor, ar y testun, Eglwys Weithgar. G:;L1 eglwys fod yn weddol o drefnus, ac eto heb fod rhyw hynod o weithgar. Ond y mae gweithgarwch mewn an- nhrefn, yn llawer gwell na rhyw fath o drefn mewn diogi. Y ddau ynghyd, gweithio bywiog mewn trefn dda, sydd gainpus. Felly fe weithir yn ílawer mwy diboen, ac hefyd yn llawer mwy effeithiol. Eglwys weithgar ! A chymeryd golwg gyffredinol, mae yn hawdd deall wrth ein hystadegau, fod y Cyf- undeb yn dyfod trwy waith dirfawr mewn un flwyddyn, a bod y gweith- garwch hwn o hyd yn cynnyddu. Canfyddir yr un peth hefyd wrth sylwi ar gofnodau ein Cyfarfodydd Misol. Yr ydym yn ystyried y cofnodau hyn yn bethau hynod o werthfawr a budd- iol i bawb sydd yn cymeryd dydd- ordeb yn llwyddiant y Cyfundeb. Ac nid yw ysbryd y dyn hwnw ag y maent yn ddiwerth yn ei olwg mewn un modd yn un i genfigenu wrtho ; canys pa ddyn bynag sydd yn meddu calon i weithio, bydd yn dda gan hwnw gael pob mantaia i ddeall pa fodd y mae y gweithio yn myned ymlaen ymhob man arall. Wrth y cofnodau hyn, ceir mantais i weled y fath fywyd o weithgarwch sydd yn rhedeg trwy'r holl gortf; y fath adolygu gwaith, cynllunio gwaith, ac ymannog i waith a geir o fis i fis ymhob sîr a dosbarth ! Ac eto nid yw yr hyn a ddaw i'r golwg, yn ein holl ystadegau a'n cof- nodau, ond mymryn o'i gymharu â'r holl weithio cyson a didwrf a geir gan bob cynnulleidfa faeh a mawr, o wyth- nos i wythnos ac o nos i nos, trwy holl gylch y Cyfundeb—gweithio nad oes ond golygon yr Hollwybodol yn unig a all gymeryd cyfrif o hóno ! Yn yr olwg yma, pwy a faidd ddarogan fod yr Hen Gorff yn debyg o farw ? Marw yn wir ! marw yn ei lawn nerth a'i lawn waith ! Ni fu erioed yn iach- ach, yn gryfach, yn fwy gweitíigar, nac yn debycach o fyw yn hir! Gall Cymru eto ddysgwyl pethau mawrion o hynyma : " Canys nid yw Duw anghyfiawn, fel yr anghofio eín gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangos- asom tuag at ei enw ef." Ac eto y niae yn rhaid i ni deimlo nad ydyni mewn un modd i fod yn uchelfrydig; y mae tir lawer eto heb ei feddiannu, a gwaith niawr eto heb ei Avneyd ac yn dysgwyl wrthym. Ac er maint a weithir, nid ydym heb sail i ofni fod y gwaith sydd yn aros heb.ei wneyd yn cynnyddu yn llawer cyflymach na'r gweithio. Wrth fwrw golwg ar yr eglwysi mwyaf gweithgar yn y Cyfundeb, yr ydym yn tybied mai nid ymhlith y rhai cryfaf, cyfoethocaf, a mwyaf amlwg y deuir o hyd iddynt, ond yn îs i îawr; ymhlith y rhai nad oes ganddynt