Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 511.] MAI, 1873. [Llyfr XLIII. BYWHAD AR Y GWAITH. PREGETH GAN Y PAECH. JOHN PUGH, B.A., TREFFYNNON. Habacuc iii. 2 : " Clywais, 0 Arglwydd, dy air, ac ofnais; O Arglwydd, bywhâ dy waith yn nghanol blynyddoeäd, pâr wybod yn nghanol y hlynyddoedd ; yn dy lid cofia dragaredd." Y mae yn arwydd gobeithiol ar ddyn 03 bydd yn arfer teimlo yn briodol oddiwrth genadwri Duw tuag ato. Mae y cyfryw deimlad yn brawf ei fod yn credu y genadwri hono, ac hefyd ei fod yn feddiannol ar raddau o dynerwch calon. Ac wele i ni siampl o hyn yma yn yr hyn y mae y prophwyä yn ei ddyweyd yn y fan hon am dano ei hun : " Clywais, 0 Arglwydd, dy air," medd efe, "ac ofnais." Yr oedd efe wedi clywed pethau tra difrifol fel cenadwri oddiwrth Dduw at Israel. Ac ni a welwn ei fod hefyd yn amlygu teimlad cyfaddas ; y mae yn clywed ac yn ofni. Ac y mae yn debyg o fod yn well arnom yn nydd blinder os byddwn yn arfer teimlo fel y dylem pan fyddo Duw yn llefaru. Dywed y prophwyd yn nes ymlaen yn y bennod, " Yn fy lle y crynais, fel y gorphwyswn yn nydd trallod." Y rhai sydd yn arfer crynu wrth air Duw, y maent yn debyg o gael gorphwys pan fyddo Duw yn ymweled â phlant dynion mewn gwa- ìianol orchwyliaethau. Prawf hefyd íbd dynion yn teimlo fel y djdent oddi- wrth genadwri Duw atynt, ydyw fod ganddynt rywbeth i'w ddyweyd wrth Dduw mewn canlyniad. TJn o ddyben- ion Duw yn ymwneyd â dynion mewn gwahanol ffyrdd ydyw eu cael ato ef ei hun mewn ymostyngiad, edifeirwch, a dychweliad. Ac wele i ni siampl o hyny eto yn yr hyn a ddy wed y pro- phwyd ymhellach am dano ei hun yn y fan hon. Mae ete yn clywed gair Duw, yn ofni, ac yn gweddio. Wele i ni yma " Ẃeddi Habacuc y prophwyd ar Sigionoth." Mae sigionoth yn arwyddo amrywiaeth tônau neu fesurau. Mae amrywiaeth mawr yn gyffredin yn mhrofìadau y dyn duwiol—ofn a hyder, trallod a chysur, galar a llawenydd; ac felly mae ei weddi yntau yn fynych yn weddi ar sigionoth. A dyma gynnwys gweddi Habacuc, " 0 Arglwydd, bywhâ dy waith." Wrth y " gwaith" yr ydym i olygu y gwahanol osodiadau y mae Duw wedi eu trefnu ar y ddaear er iachawdwriaeth dynion. Wrth fod y gwaith yn cael ei fywhâu, yr ydym i olygu fod adnewyddiad yn cymeryd lle yn ysbryd y rhai sydd gyda y gwaith, ac hefyd fod effeithioldeb adnewyddoí yn cael ei roddi i gydfyned â'r gwahanol foddion i beri iddynt ateb eu dyben- ion neillduol. "Bywhâ dy waith yn nghanol y blynyddoedd," sef yn nghanol y blynyddoedd hyn o drallod, cyfyng- der, a chaethiwed. Yr oedd Israel y pryd hwn yn nghanol trallodau gwladol ac eglwysig ; ac fe wyddai Habacuc, trwy weledigaeth, fod y genedl i fyned ac aros mewn caethiwed yn Babilon dros yr yspaid o ddeng mlynedd a thri- ugain. Ond fel pe dywedasai, Paid a'n gadael i ddyfod at derfyn y cyfnod hwnw cyn cael dy ymweliadau grasol. Bywhâ dy waith yn nghanol y blyn- yddoedd. Pâr wybod yn nghanol y blynyddoedd. Pâr wybod dy fod i ni yn Dduw, pâr wybod ein bod mewn modd neillduol yn wrthddrychau dy ofal a'th amddiffyniad. "Yn dy lid cofia dru- garedd." Os rhaid i ni ddyoddef pethau blinion fel cerydd am ein pechodau, eto paid ag ymddwyn tuag atom yn ol