Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. 549.] GORPHENAF, 1876. [Lltpb XLVI. AMAETHIAD GALLUOEDD YR ENAID. Cyfarchiad a draddodwyd yn Vestry Jewin Crescent, Llundain, TacMoedd 16, 1875, mewn Cyfarfod Llenyddol, GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A. Ymhlith cwestiynau pwysig eraill, y mae dau ag sydd yn -dal perthynas neillduol âg oes dyn ar y ddaear. Un yw, pa rai sydd, a'r llall yw, pa rai a ddylent fod, yn brif amcanion bywyd. Pwnc o wyddoîeg, ag sydd yn cynnwys ymchwiliad i'r hyn sydd fel ffaith, yw y cyntaf. Pwnc o foesoldeb, ag sydd yn cynnwys ymchwiliad i'r hyn a ddylai fod fel dyledswydd, yw yr ail. Er fod perthynas agos rhwng y ddau, y mae gwahaniaeth anfesurol rhyng- ddynt ar yr un pryd. Am hyny nis gall unrhyw ddarganfyddiadau new- yddion mewn gwyddoreg o'r hyn yw dyn o ran ei gorff a'i feddwl, neu o ran perthynas ei gorff a'i feddwl â'u gilydd, gyffwrdd â'r gwirionedd am ddyled- awydd, yr hwn yw un o wirioneddausyl- faenol cristionogaeth. Mae'r ddau bwnc yn perthyn i ddau fyd o bethau. Er hyny dau fyd cymydogol ydynt. Fe ddengys ymddygiadaullawer o ddynion, nad oes ganddynt syniadau dyrchafedig am ddyben bywyd yn ybyd. hwn, yr hyn sydd o hono ei hun yn profi nad oes ganddynt ychwaith syniadau uchel am natur bywyd y byd a ddaw. Nodwedd eu buchedd yw eu bod yn troi y gwa- hanol bethau ag sydd yn foddion neu yn gyflèusderau i gyrhaedd yr amcanion uchaf, yn amcanion eu hunain i fyw er eu mwyn. 0 herwydd hyny, anghofir ac esgeulusir yr hyn y dylent dreulio eu dyddiau er mwyn ei gyrhaedd. Tuag at gyrhaedd amcanian mawr- ion bywyd, rhaid i ddyn ofalu am goethi a chryfhâu holl alluoedd ei enaid nes eu haddfedu. Er fod hyn yn anhawdd, ac yn gofyn am lafur diflino, y mae yn anghenrheidiol, ac hefyd yn bosibl. Addiedrwydd prif alluoedd yr enaid sydd yn cyfansoddi cyflawn faintioli dyn, yn feddyliol ac yn foesol. Ac nid peth bychan yw deffro cynneddfau uchaf dyn o'u cŵsg i weithredu o gwbl. Gwneir hyny pan y mae dyn, trwy ei reswm a'i gyd- wybod, yn gweled ac yn teimlo ystyr y fath eiriau a dyledswydd, cyfrîfoldeb, euogrwydd, deddf f'oesol, cyfiawnder, tragywyddoldeb. Cyffröi meddyliau i weled y gwirioneddau cynnwysedig yn y geinau hyn, a'r cyffelyb, yw un o amcanion pregethu yr efeDgyL Ond y mae addfedrwydd y galluoedd yn cyn- nwys llawer mwy na hyn. Rhaid i ddyn wrth flynyddoedd er mwyn cyT- haedd addfedrwydd. Ac eto nid yn ol nifer blynyddoedd y mae mesur add- fedrwydd, ond yn ol graddau meddyl- garwch. Heb fesur o feddylgarwch, nis gall profiad blynyddoedd lawer o gyfnewidiadau amrywiol y byd gywiro y farn, nag ehangu y syniadau. Gall y naill ddyn feddwl mwy o feddyliau mevm blwyddyn neu ddwy, na dyn arall mewn deng mlynedd ar hugain, ac mewn canlyniad bod yn fwy o ddyn, yn ystyr oreu ac uchaf y gair 'dyn,'