Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEFA. Rhip. 551.] MEDI, 1876. [Llyfr XLVI. Y CYNGHOR A DRADDODWYD AR YR ORDEINIAD YN NGHYM- DEITHASFA Y DREFNEWYDD, GAN Y PARCH. HUGH JONES, LIVERPOOL. 1 Tiuotheds ir. 1G : "Gwyli* »rnat dy hun ac »r yr athrawiaeth, aros ynddynt; canys os gwn»i hyn 1 i a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat." Y mae ycynghor hwn yn ymddangos fel crynodeb o'r cynghorion a roddasai Paul i Timotheus yn yr adnodau blaen- orol. Yr oedd gwneyd yn ol y cynghor hwn yn beth pwysig iawn ì Timotheus gyda golwg arno ei hunan: gwylio arno ei hun, pa fath fyddai ei gymeriad, a gwylio ar yr athrawiaeth, pa beth a gredid ganddo. Ond cymhellir y gofal hwn ar Timotheus yn neillduol yma er mwyn eraill—gyda golwg ar ei swydd fel gweinidog yr efengyl. Yr un pryd, y mae cyflawni y weinidogaeth yn deilwng yn sicr o fod yn foddion o ras i'r dyn ei hun: " Os gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat." Y mae yn anmhosibl i weinid- og yT efengyl gyfiawni yn ffyddlawn ac effeithiol waith ei swydd ond yn unig yn y llwybr a derfyna yn ei gadwedig- aeth ef ei hunan. Ei rwymedigaeth fawr ydyw gwylio arno ei hun ac ar yr athrawiaeth. Bydd hyn yn barotòad arno i gyflawni pob dyledswydd a syrth i'w ran. Y mae gwylio ar yr athrawiaeth yn cynnwys gofalu am iddi fod yn bur : yn bur odäiwTth gyfeiliornad, ac oddiwrtìi bob peth annheilwng o'r efengyl. Sonir gan Paul am " ysbrydion cyfeiliornus, acathrawiaethau cythreuliaid;" am ryw rai yn dysgu pethau " heb gyttuno âg iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â'r athrawiaeth sydd yn ol duwiol- deb ;" ac am ry w rai " â'u hymadrodd yn ysu fel cancr." Dynoda ddys^eid- iaeth y dynion hyn hefyd yn " ofer siarad "—yn " ymryson ynghylch geir- iau, ac anmhwyllo ynghylch cwestiyn- au "—yn " ynfyd ac annysgedig gwest- iynau "—yn " halogedig ofersain "—yn "halogedig a gwrachiaidd chwedlau." Yn gyferbyniol â hyn oll, yr oedd Timotheus i wylio ar yr athrawiaeth—i ddysgu fel un wedi ei fagu yn ngeiriau y ffydd ac athrawiaeth dda—i'gyhoeddi athrawiaeth iachus—i ochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau—i droi oddi- wrth halogedig ofersain, a gadael heibio halogedig a gwrach'iaidd chwedlau. Nid ydym ninnau yn rhy ddiogel i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag myned ar gyfeiliorn mewn athrawiaeth. Y mae pethau yn cael eu cyhoeddi o bulpudau Protestanaidd ein gwlad sydd yn ysu fel cancr—yn cancro meddyliau dynion. Ac y mae gwrandäwyr i'w cael eto, ysywaeth, yn methu dyoddef athraw- iaeth iachus—yn pentyru iddynt eu hunain athrawon yn ol eu chwantau eu hunain, gan fod eu clustiau yn mer- wino—yn ìtchio—am glywed rhywbeth newydd—rhywbeth yn lle gwirionedd iach ac iachusol—rhai yn troi gyda difiasdod oddiwrth y gwirionedd, ac at chwedlau y tröant. Os ydym am wylio ar yr athrawiaeth, dylem nid yn unig ochel syniadau cyfeiliornus,gwenwynig, ond hefyd pob ofersain—pob ofer siar- ad—pob peth gwrachẁidd—pob soth- 2 B