Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORF A. Rhif. clxxiv.] MEHEFIN, 1845. [Llyfr XV. IButo mpîiíi taetö ♦ CRISTIONOGAETH YN EI PHERTH- YNAS AG AMGYLCHIADAU. 9IGION O ARAETH Y DH. CHALMEES. Gellih. ystyried Cristionogaeth, naill ai fèl crefydd yn ein dysgu pa fodd i ymddw\n mewn amgylchiadau neillduol, neu fel crefydd o egwyddorion cyflredinol. Dymunwyf bwyso at eich ystyriaeth y gwahaniaeth hwn. Tyb- iwyf i'r Apostol Paul glirio ei fFordd yn rhagorol drwy amgylchiadau bwydydd, dydd- iau, ac ordeiniadau, heb iselu nodweddiad y gyfundrefh Gristionogol ; a thueddir fi i gy- meryd o'r dull yr ymdrinia â'r materion hyn, mewn ystyriaeth o amgylchiadau ereill a achosant bryder ac anesmwythdra yn medd- yliau llawer yn y dyddiau presennol. Cy- meradwywn yn neillduoi i'ch sylw ar y mater y bedwaredd bennod ar ddeg o'r Rhufeiniaid, fel enghraüFt ragorol o'r modd y gall meddwí a fyddo arferol o gymdeithasu â phethau mwy, ymostwng at bethau llai, oddiwrth egwyddorion at amgylchiadau; ac y gall ddangos, heb adael rhodfëydd uchel ffÿdd, yn mha ystyr y gallwn gyd-oddef âg arferion y byd, ac yn mha ystyr y dylem eu gochel. Ý dull arbenig o gadw y Sabbath; y graddau ag y gellir goddef cyd-ymffurfiad â'r byd; pa cyn belled y gellir, yn gyfreithlon, ddilyn arferion cyflredinol y wlad;—mae yr holl bethau hyn yn cynwys pynciau amgylcn- iadol anhawdd iawn dyfod i benderfyniad yn eu cylch, o ddifiỳg rhywbeth pendant yn mha un y gallwn ymaflyd. Ymddangosant fèl pe na byddai un egwyddor arbenig yn eu llyw- odraethu, nes y mae y meddwl yn cael ei gadw mewn dyryswch ac ammheuaeth pa fodd i weithredu. Un dosbarth a gyhoedd- ant eu haeriadau gydag awdurdod a phen- derfyniad dynion anffaeledig: ond y mae dos- barth arall na dderbyniant y cyfryw heb gael rheswm am hyny. Yr ansefydlogrwydd hwn mewn barn a achosa bryder mawr yn medd- yliau y Vhai hyny sydd yn dyfal chwilio am y gwirionedd, ac yn oíhi cofleidio cyfeiliornad. Ni8 gallant ymfoddloni ar hòniadau mawr- «ddig y rhai hyny sydd yn.Uefaru ' fel rhai ag awdurdod ganddynt.' Maent yn barod i ddilyn goleuni yr ysgrythyr; ond y goleuni hwn yw yr hyn y maent yn chwilio am dano. Nis gállant bwyso yn ddiysgog ar haeriadau y rhai hyny a ystyriant, oblegyd eu hir astud- iaeth a'u hymarferiad yn llwybrau Cristionog- aeth, fod eu hawdurdod yn ddigon o brawf; ac nis gallant ymfoddloni i ddilyn ymddyg- iadau ansefydlog y rhai hyny sydd yn aros yn anmhenderfynol, megys ar y terfyn rhwng yr eglwjs ẃ byd. Tybier i'r cwestiwn gael ei ofyn, ' A ddyl- ŵn, ai ni ddylwn, fyned i'r chwareudŷ?' Yr wyf yn enwi hyn, nid fel ffieidd-dra ar- benig, ond fel enghraifft o ddosbarth. Pe byddai i'r gofyniad uchod gael ei roddi, dy- munwn ei ateb drwy ofyniad aralh 'Pauns jw yr. ymofynydd eisoes wedi derbyn Cristion- ogaeth, neu a ydyw Cristionogaeth eto ganddo i'w cheisio ?' Os y cyntaf, byddai yr atebiad genyf yn barod; ond rhag ymdriniaeth an- noeth â'r olaf byddai yn ddymunol genyf eich gosod ar eich gwyUadwriaeth. Dymunwn osgoi y cwesüwn, drwy ddywedyd, mai nid hwn yw y mater pwÿsicaf mewn llaw. Gwell fyddai genyf siarad ant ei gyflwr condemniol ger bron Duw; am faddeuant drwy Iesu Grist; ac am yr angenrheidrwydd o ymos- twng dan ddysgyblaeth rag-barotöawl erbyn tragywyddoldeb. Hyn fyddai mwyaf dy- múáal genyf,• a pheidio cymeryd i fynu yr «ü nes y byddai yr achos cyntaf a phwysicaf wedi ei benderfynu. Gwneuthur yn wahanol i hvn f>ddai gyfíelyb i ddechreu astudio cyf- undrefn Newton gyda rhy w effeithiau dibwyg a phelìenig, yn hytrach nag vn gyntaf ddeall jr egwyddorion gwreiddiol. Mae amryw resvmau dros y dull a gymer- adwyais. Pe byddai rhoddi i fynu y chwar- eudai, lleoedd cyhoeddus, &c, y ri cael eu go- sod ger bron y dysgybl ieuanc fel rheolau pendant, byddent yn dueddol o'i arwain i 'wneuthur cam-gasgliadau niweidiol. Gallai ymattaliadau gael eu gosod \n lle gweithred- oedd da; a gallai newid sail ei obaith o gyf- iawnder, a'i osod ar ei g\íìawnder ei Ìmn. Nid yw h\ny yn cynwys un o ymarferiadau