Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. clxxvii.] MEDI, 1845. [Llyfr XV. CYMDEITHASAU EFENGYLAIDD Y CYFANDIR. Jraeth ddiweddaf yr enwog Dr. Merle D'AuiîigîíE, yn Lloegr, ynghyd ag araeth y Parch. Mark Wilks, o Ffrainc, mewn Cyfarfod mawr yn Nghapel Finslury, Llundain, prydnawn ddydd Llun, yr 28am o Orphenaf, 1845. Yr wyf yn hyderu mai afreidiol y w i mi lunio un esgusawd dros fy ngwaith yn cyflwyno yr Araeth isod i sylw darllenwyr y Drysorfa y mis hwn, wedi llciiwi o honwyf amrai ddalen- au o'r Rhifyn o'r hlaen âg Araeth arall noded- ig i'r gwr parchedig ahynod hwnw, Dr. Merle D'Aubigne. Y mae cynwysiad ei areithiau, a'r ysbryd rhagorol yn mha un y traddodir hwy, yn enill iddynt gymeradwyaeth a sylw gan bob un sydd yn gofalu dros achos Duw yn y byd, a than syniadau fel yna y cyflwyn- wyf hanes y cyfarfod dyddorol hwn i sylw fy nghyfeillion. Cynaliwyd y Cyfarfod uchod yn Nghapel Finsbury, Llundain, ar brydnawn ddydd Llun, Gorphenaf 28, 1845, er rhoi derbyniad croesawgar yn y brif ddinas, i'r duwinydd enwog—Dr. Merle D'Aubigne,—ac er cy- northwyo y cymdeitliasau efengylaidd sydd ar gyfandir Ewrob. Yr oedd yr adeilad ëang hon wedi ei llenwi gan wrandawwyr; a chryn bryderwch wetli ei enyn yn mynwesau y rhan fwyaf o honynt. Dechreuwyd y Cyfarfod drwy ganu mawl: yna gweddiodd y Parch. Mr. Redpath, a dewiswyd Syr Culling Eardley Smith, Barwn- ig, yn gadeirydd. Wedi i'r Cadeirydd urddasol ddwyn i sylw ddybenion y cyfarfod, a phwysigrwydd cael a chynal undeb Cristionogol, a llafurio i led- ' daenu yr efengyl, yn y purdeb o honi, yn Ffrainc, ac ar y Cyfandir, efe a ddywedai ei fod < yn teimlo y byddai iddo fod yn gyfiìlyb i un yn ceisio goreuro yr aur pur, os byddai iddo amcanu dyweyd gair o ganmoliaeth i'r hwn a alwai yn mlaen i'w cyfarch : ac mai mwy derbynioí ac anrhydeddus fyddai iddo gyflwyno i'w sylw, heb ragymadroddi mwy, y Lr. Merle D'Aubigne, o Geneva. Yna cododd Dr. Merle D'Aubigne ar ei òraed, ynghanol boallefau o gymeradwyaeth rnawr dros ben: a dechreuodd areithio yn debyg i hyn:— Y mae yn dda i ni, ac yn enwedig y mae ?n dda i mi fod yma heddyw; canys yr ydym wedi ymgynull nid yn enw dyn, ond yn enw Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn a addaw- odd fod gyda'i eglwys bob amser hvd ddiwedd y byd. Y mae yr Arglw\dd gyda ni,ac >n y grediniaeth o hyny yr wyf yn dyfbd i lefaru wtthych, er mai go anhawdd yw i mi lefaru yn eich iaith chwi. Os b * dd i'r CoríF Cynull- eidfaol, a chyfeillion Cristionogol ereül yn Lloegr wneuthur rh\wbeth ar ran y c\fandir, nid hon fydd y fendith gyntaf a dderbynias- om oddiar eich llaw. Er ys amser maith bellach chwi a roisoch i ni ein cyfaill anwyl sydd >n bresennol, Mr. Mark \YiIks. A rhaid i mi ddiolch i chwi am y rhodd hon o'ch eiddo i'r cyfandir. Ië, fy anw\l gyfaill a brawd Wilks, yr wyf y n ei hysty ried yn ddyl- edswydd, yn gystal a phleser, i d> stio diolch- garwch fynghydwladwyr i o flaen eich cyd- wladwyr chwi, ac yn enwedig y rhai hyny o'r Cristionogion Ffrengaidd; a'r teimladau da sydd ynom tuag atoch o herwydd i chwi adael cynifer o gyfeiìlion caredig ac anwyl, a dyfod drosodd i Ffrainc, a llafurio yno dros Dduw. Am i chwi roi i ni eich amser, eich talentau, eich arian, a'r cwbl a feddwch, yr ydym yn wir ddiolchgar i chwi; a'r Arglwydd Iesu, dros yr hwn y gwnaethoch hyn oll, a ddywed etto, \n y dvdd y bydd raid i ni olí sefyíl ger ei fron, ' Da, was da a flyddlon, dos i mewn i lawen\dd dy Arglwydd.' Teimlir pryderwchnewydd am efengyleiddio y cyfandir, nid yn y Cyfarfcd hwn a holl gynulleidfaoedd Llundain, ond drwv Loegr; a rhaid i mi hysbysu i chwi na ddichon i wrthddrych mwy pwysig byth ddyfod o flaen eich medd\ liau. Y pwnc yw, ai ni ddylai Lloegr, yr hon sydd yn llafurio yn mhob man er lled-daenu gwirioneddau yr efengyl, \n Jerusalem, yn Affrica, yn Australia, yn China, ac yn holl Asia, gymeryd yn wresog mewn llaw y gwaith o efengyleiddio cyfandir Ewrob ? Pam ? nid oes ond culfor vn unig rhyngoch a gorseddfainc ofergoeledd Pabaidd; y mae cynniweiriad beunyddiol rhyngoch a Ffrainc, Switzerland, ac Itali, ac y mae llawer o honoch yn myned i bresw\lio i'r manau hyny yn fynych ; ac oni ddylech chwi gryfhau dwylàw y rhai sydd yno yn ymladd dro$ y gwirion-