Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEFÀ Rhif. 680.] MEHEFIN, 1887. [Llyfe LYII. EHAI 0 EGWYDDORION DYSGYBLAETH EGLWYSIG. SEILIEDIG AE 1 CORINTHIAID V. Dau allu arbenig a berthyn i eglwys Dduw, fel y mae yn gorff Crist, ydyw, gallu i briodoli, hyny ydyw, gallu i wneyd yr hyn sydd y tu allan iddi i fod yn eiddo iddi ei hun ; ac hefyd, gallu i'w phuro ei hun. Yn rhinwedd y cyntaf o'r ddau yma, y mae yr eglwys yn meddu ar allu i'w meithrin ei hun, trwy gyfnewid i'w natur a'i delw ei hun y gwahanol el- fenau y mae yn eu tynu i mewn iddi ei hun allan o'r byd. Fel y mae y pren byw, yr hwn y mae ei wreiddiau yn y ddaear, yn perchenogi gwahanol elfenau y ddaear hono i fod yn eiddo iddo ei hun, yn ol nerth y bywyd sydd ynddo; ac fel y mae y corff byw yn troi yr hyn y mae yn ymborthi arno i fod yn eiddo iddo ei hun, yn ol nerth y bywyd sydd ynddo yntau, felly hefyd y mae yr eglwys, fel y mae yn gorff Crist, yn troi yr hyn y mae yn ei dynu i mewn iddi ei hun allan o'r byd, i fod yn eiddo iddi ei hun yn ol nerth y bywyd sydd ynddi hithau. Yn rhinwedd yr ail allu a nodwyd, y mae yr eglwys yn meddu ar allu ac awdurdod i fwrw allan o honi ei hun yr hyn sydd groes a gwrthwynebol iddi o ran natur. Y mae hi yn meddu ar allu i buro ei hun. Mae y ddau allu yna yn meddiant yr eglwys yn rhinwedd ei hundeb â'r Arglwydd Iesu Grist fel ei Phen. Gallu ag sydd yn ffrwyth undeb ydyw y naill a'r llall. Nerthoedd bywyd Crist ei hun yn ei eglwys ydynt. Dyna ydyw y gallu sydd yn meddiant yr eglwys i dynu y byd i mewn iddi ei hun, ac i'w gyfnewid i'w natur a'i delw ei hun, i fod yn " aelodau o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef." Gallu bywyd Crist ei hun yn ei eglwys ydyw. Pob un sydd yn dyfod i mewn i eglwys Dduw mewn gwirionedd, nid i'r weledig yn unig, ond i'r ddirgeled- ig hefyd, y mae yn dyfod iddi yn ol gweithrediad nerth bywyd annherfyn ol ei Phen. Pob un sydd ynddi mewn gwirionedd y mae ynddi yn ol nerth y bywyd yna. Dyna oedd y gallu a'i dygodd i mewn iddi, ac a'i ceidw ynddi byth. Anghof o'r gwirionedd yna ydyw yr achos o bob pryder all fod yn mynwes yr eglwys ynghylch cadwedigaeth y byd. Ac o'r ochr arall, sylweddoUad byw o'r gwirion- edd yna ydyw ffynnonell pob gwrol- deb ysbrydol yn yr eglwys i wynebu ei gelynion, ac i dori trwy yr anhaws- derau mwyaf. Y mae godidogrwydd y gallu i gadw o hono Ef. Y mae Crist yn bresennol yn yr eglwys yn ogystal a chyda hi. Y mae yr un peth yn wir hefyd am y gallu arall a berthyn i'r eglwys, sef ei gallu i fwrw allan o honi ei hun bob elfen groes a gwrthwynebol i'w natur ei hun a ddichon ddyfod i mewn iddi. 0 Grist y mae hwn hefyd yn