Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

x dry/soihfa. Rhif. 683.] MEDI, 1887. Llyfr LVII.] Y DIWEDDAR BARCHEDIG DR. EDWARDS, BALA. GAN Y GOLYGYDD. (Ysgrif Gyntaf.) Dywed Carlyle yn ei Ddarlith ar Schiller fod yn gywilydd i berchen athrylith rwgnach; am fod ganddo " oleuni o'r Nef " o'i fewn, o'i gyrnharu â'r hwn nad yw holl ysplander thron- au a thywysogaethau y ddaear ond tywyllwch; ac na ddylai y pen sydd yn gwisgo y fath goron gwyno os bydd, fel y dywed Shakespeare, yn " gorwedd yn anesmwyth." A sylwa ymhellach, nas gall unrhyw wrthwyn- ebiadau ddiffodd y goleuni nefol hwn a gynneuwyd yn enaid dyn. Os gallai, er yn tywynu trwy y cyfryngau mwy- af gau, gynnal Simon y sant hunan- benydiol i sefyll trwy bob tywydd ar ei Golofn o driugain troedfedd, neu yr Eremiad rhyfeddach fyth, yr hwn a furiodd ei hun, dros ei oes, i fyny hyd at yr ên, mewn ceryg a chymrwd; pa faint mwy y gall, pan yn tywynu yn uniongyrchol, ac yn bur oddiwrth bob cymysgedd ? Felly y mae Carlyle yn cynghori Offeiriad Doethineb yn y dyddiau hyn i oddef erhdiau a bJin- derau yn amyneddgar, rhag i neb allu dyweyd fod gwallgofiaid crefyddol yr oesoedd gynt yn addolwyr mwy gwir- ioneddol nag ef o dduwies Gwirionedd. Nid oes dwy farn am y gŵr parch- edig sydd â'i enw uwch ben yr ysgrif hon, nad oedd efe yn oleuad mawr, yn seren o'r maintioli cyntaf, yn tywynu yn ffurfafen crefydd a llenyddiaeth Cymru yn ystod yr hanner can' mlyn- edd diweddaf. Cynneuwyd ynddo yn gynhwynol yr hyn a eilw Carlyle yn " oleuni o'r Nef." Cafodd ei gyn- nysgaethu â meddwl cawraidd, o allu a chyrhaeddiad rhyfeddol. Yr oedd ei holl enaid wedi ei lunio ar raddeg fawr. Cynneuwyd ynddo trwy ras y goleuni mwy dwyfol o feddylfryd ys- brydol, a thân cariad at Grist. A llewyrchodd Duw yn ei galon y ddawn a'r ysbryd i " roddi " y goleuni gogon- eddus hwn i eraill. Cyfrifodd yr Arglwydd Iesu ef yn ffyddlawn, gan ei osod yn y weinidogaeth. Unwyd ei galon i wasanaethu Duw yn Efeng- yl ei Fab. Ymgysegrodd i un amcan. Ac oblegid hyny ymgrynhôdd yr holl oleuni a'r gwres i un canolbwynt. Chwanegwyd yn fawr at ei nerbh ac eangder ei dafliad trwy flynyddoedd o addysg uchel a llafur dibaid. A chyda'r parotöad yma, nad oedd ei debyg wedi bod hyd hyny yn ein plith ni fel Cyfundeb, ac yn yr holl rymus- der hwn, y cyfododd, yn dawel a di- ymhongar fel y boreu wawr-ddydd, i oleuo i Gymru; a pharhau i oleuo a wnaeth, ac i oleuo fwyfwy, a ninnau oeddym ewyllysgar i orfoleddu dros ysbaid hanner canrif yn ei oleuni ef. Credwn nad ydym yn arfer gormod- iaeth wrth ddyweyd fod Dr. Edwards, a chymeryd pob peth at eu gilydd— holl swm a chwmpas y dyn, yn ei alluoedd a'i ddysg, yn ei ysbryd a'i waith, ac yn nyfnder ac eangder ei ddylanwad ar dduwinyddiaeth a Jlen- 2 B