Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. CCLYIII.] MEHEFIN, 1868. [Lltfr XXII. GWEDDI AM ADFYWIAD CREFYDDOL. Salm xc. 13: "Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarhâ o ran dy weision." "Gweddi Moses gŵr Duw" yw teitl y salm hon. Mae yn dra thebyg i'r hen a'r hybarch ddeddfwr Iuddewig ei chyf- ansoddi wedi iddo gyrhaedd rhosydd Moab, pan yr oedd ei oruchwyliaeth fel blaenor Israel ar derfynu, a'r awr yn ymyl iddo gael ei gasglu at dadau ei bobL Yr oedd efe wedi gweled o bryd i bryd gyfiawniad y ddedfryd drom a gyhoeddasai Duw, er ys deunaw mlyn- eäd ar hugain, ar y genedlaeth a ddaeth allan o'r Aipht, sef y byddent, gyda yr eithriad o Caleb a Josuah, feirw yn yr anialwch yn farn am eu hanghrediniaeth a'u grwgnachrwydd, ac mai eu plant yn unig a fwynhëent wlad yr addewid. Erbyn hyn, wrth droi yn ôl mewn adgof at y bobl mewn oed, y chwe' chan' mil, a mwy, a ddaethant gydag ef o'r Aipht, mewn gobaith am fyned i Ganaan, mae yn eu cael agos oD, os nid yn gyfan, wedi syrthio dan y farn a ddaeth o enau Duw, " Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau." Ac felly yn y salm arbenig hon, wele Moses yn dadlwytho ei deimladau dwysion mewn gweddi; a thra y mae ynddi yn galarnadu uwch ben gwaelder a marw- oldeb dyn, mae yn ymgysuro yn ngras- lonrwydd, ffyddlondeb, a thragywyddol- deb Duw. Mae yn addef ddyîod y farn echrydus ar y bobl yn gyfíawn: "Go- sodaist ein hanwiredd ger dy fron—yn dy ddig y dyfethwyd m." Önd y mae yn cofio mai y Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, oedd Arglwy dd Dduw Israel; a chan édrych ar y genedl fel eglwys i'r Goruchaf, mae efe, yn enw yr eglwys, yn gofyn am iddo droi ei ddig oddiwrth ei bob^ amlygu ei drugaredd iddynt, eu üawenhâu ar ol hir flynyddau o ddryg- W a gosod ei brydferthwch gogoneddus arnynt. Ac un o'r erfyniau taerion yw gweddi'r testun. " Dychwel, Arglwydd." Na chofìa ein hanwireddau; tro atom mewn maddeu- ant a thosturiaethau; dyro i ni brawf adnewyddol o'th ffafr a'th ewyllys da; bydd mor amlwg gyda dy bobl sydd yn awr wrth yr Iorddonen hon, yn eu cy- suro a'uilwyddo, âg y buost wrth ae yn y Môr Coch gynt. " Pa hyd ? " Ai byth y digi wrthym ? a estyni di dy soriant o genedlaeth hyd genedlaeth? Ai nid digon yr ym- grwydro a'r caledfyd yn yr anialwcn er yn agos i ddeugain mlynedd beUach? Ai nid yw yr hen addewid i Abraham am Ganaan i'w hâd ar arllwys ei thrysor weithian? "Dychwel, Arglwydd, pa hyd ?" Yn ol darlleniad Esgob Horsley, "Dy ddychweliad, 0 Arglwydd, pa bryd y bydd ?" Yr ydym yn dysgwyl gyda'r pryder a'r awydd mwyat am i ti eto wneuthur arddeliad o honom fel dy bobl o fiaen wyneb yr holl ddaear; yr ydym yn diffygio o niraeth am dy am- lygiad grasusol: "pa bryd y bydd?" " Ac edifarhâ o ran dy loeision," neu, tuag at, neu, er mwyn, dy weision. Paid âg ymddwyn tuag at dy weiaion megys tuag at estroniaid ; gwêl yn dda newid dy orchwyliaeth tuag atom; ein diwaÛu â'th drugaredd,ac nid ein ffrewyllu â'th ŵg. Ni a wyddoín mai nid dyn yw Daw i edifarhâu; mae efe yn anfeidrol ddoeth a da fel nad oes byth anghen am iddo edifarhâu fel dyn; ac y mae yn gweUd y diwedd o'r dechreuad, ac yi. yr oll a wna yn anghyfnewidiol. Ond y mae'r Goruchaf, mewn ymostyngiad ajL^t gwendid ni, yn llefaru am dano ei hun, ac yn gadael i ninnau lefaru am dano,