Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCLXIL] H7DREF, 1868. [Llypr XXIL MODDION GRAS AC ORDINHADAU YR EFENG7L. GAN Y PARCB. DAVID EVANS, M.A., DOLGELLAÜ. Arfer yr Arglwydd ymhob oes o'r byd, mewn crëadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth, ydy w gweithio drwy foddion ac offîrynau a chyfryngau. Hyd yn nôd yn yr amlygiad cyntaf o hóno ei hun yn ei gysylltiad â'n byd ni, heblaw drwy ei air yn cyhoeddi y "bydded" hollalluog uwchben y try- blith didrefn, yr oedd drwy ei Ysbryd hefyd yn arfer rhyw foddion anhysbys i ni,—"yn ymsymud" ar wyneb y dyfr- oedd. Gallasai efe wneyd ei waith yn berffaith ar unwaith; eithr nid felly y dewisodd. Fel yr aderyn yn taenu ei adenydd dros y nŷth wrth ddëor, felly yr oedd yr Ysóryd Mawr, drwy foddion araf, eto effeithiol, yn dwyn trefn o annhrefn, ac yn cynnyrchu bywyd o ddiddymdra a marwolaeth. Os cymer- wn frâs-olwg ar holl amrywiaeth a lli- osogrwydd ei weithredoedd, o'r amlyg- iad cyntaf o hóno ei hun hyd heddyw, y rheol fawr ydyw hoff ler Daw o fodd- ion a chyfryngau. Wedi gwneuthur y dyfroedd, a'r ddaear, mae yn wir, o ddim, gwnaeth y crëaduriaid a dyn o'r pethau yna, a'r wraig drachefn o'r gŵr. Yn y diluw, er mai gwyrth anferthol ydoedd, ac wedi ei fwriadu i gyflawni yr amcanion Dwyfol, eto ni wnaed ymaith â gweithredyddion naturiol, a moddion dynol, lle yr oedd cymhwys- der ynddynt i gael eu harfer. Ni ddar- parwyd yr arch drwy wyrth, ond adeil- adwyd hi gan ddwylaw dynol drwy lafur blynyddoedd maith. Nid ym- ddengys fod y dyfroedd a foddasant y ddaear wedi eu crëa i'r dyben hwnw, ac wedi hyny eu dinystrio, ond yn hytrach defnyddiwyd y rhai oedd mewn bod eisoes. Digon tebyg mai yn ôl y drefn gyffredin o ymsymud y daeth y crëad- uriaid i'r areh, fel pe na buasai ond eu taedd eu hunain yn eu cyfarwyddo,ja'u gallu eu hanain yn eu nerthu. Yn mhläau yr Aipht, nid gweithrediadau digyfrwng a arferwyd, ond moddion ac offerynau o'r cyntaf hyd y diweddaf. Pan, ar ol gadael gwlad y caethiwed, y daeth y genedl gyntaf i wrthdarawiad â'i gelynion, dewisodd yr Arglwydd roddi iddynt y faddugoliaeth nid yn ddigyfrwng, ond ei chysylltu, heblaw â chleddyf Josua yn y dyffryn, âdyrchaf- iad dwylaw Moses mewn gweddi hefyd yn y mynydd. Ni tliröid y graig yn ìlỳn dwfr, a'r callestr yn ffynuon o ddyfroedd, ond gyda'r gair a'r wialen fel moddion. Yn d liwwddarach, holltai y prophwyd yr afon â'i t'antell; ni iach- ëid y Syriad o'i Wdhanglwyf ond drwy ymolchi seithwaith ynddi, na mab y Snnaraees heb i'r propbwyd ei hunan ymestyn ar y plentyn; a phan y byddai yr Arglwydd yn dwyn ei farnau ar y wlad, nid chwythu y trigolion gwrth- ryfelgar i ddinystr âg anadl ei ffcoenau y byddai, ond weithiau gwneyd i gyn- ddaredd dyn ei foliannu Et'; bryd arall galw ei hyfforddus weision, y ceiliog rhedyn, pryf y ruwd, a'r locust, a'r lindys, ei lu mawr ef, i gyflawni ei waith, Pan ymddangosodd ein Ceidwad drachefn, yn y cnawd, cyflawnai yntau y rhan fwyaf o'i wrtithredoedd nerthol drwy gyfryngau. Ya y wyrth gyntaf oll, nid crëa y gwia o ddim a ddarfu, ond troi y dwfr oîdd ganddynt eisoes i'r gwlybwr nad oed l ganddynt, a'r hwn yr oedd arnynt angben am dano. Wrth borthi y miloedd. nid yn llai gwyrthioi mae yn wir, eto y tn*e yn haedda sylw y gweithredai drwy gy frwng yr ychydig