Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. CCLXIV.] RHAGF5TR, 1363 [Llyfr XXII. TREM AR AGWEDD Y WLAD. GAN Y PARCH. DAVID PHILLIPS, MAESTEG. Er mwyn cael golwg gywir ar unrhyw beth, rhaid i ni gymeryd pwyll. ÍSTis gallwn gael golwg rlêg a chyflawn ar arwynebedd y wlad wrth fyned trwy- ddi yn ngherbyd y gledröordd, gyda chyflymdra arferol yr ager; ni í'edrwn ni felly gymeryd i fewn syniad cywir, am tod yr oll yn ymddangos fel yn rhedeg yn ein herbyn, ac yn myned heibio yn chwyrn. I gael golwg dêg, rhaid cymeryd pwyll ac aros i edrych o'n cwmpas, fel y gallom gymeryd i fewn yr olygfa, a rhoddi 'desgrifìad gonest o'r hyn a welwn. Gan hyny ni a edrychwn am ychydig ar sefÿllfa bresennol ein gwlad, ac ar agweddion cymdeithas fel y mae. Beth pe cymerem olwg ar y rhan hyny o'r wlad sydd yn fwyaf adnabyddus i ni— gwlad ein ^uedigaeth? am hono y fwyddom ni fwyaf. Neu, beth ped elaethem y cylch, a chymeryd i fewn Brydain, neu y rhan hyny o'r Deyrnas Gyfunol a elwir Cymru a Lloegr ? Y mae pawb o honom yn ddigon o ddaear- yddwyr i gymeryd hyny o fewn y cylch. Wel, bydded felly, ynte; niaedrychwn am ychydig ar Gymru a Lloegr, i gael golwg dêg fel i ffurfio barn gywir am agwedd presennol cymdeithas. Un o'r pethau cyntaf, hwyrach, a welwn wrth graffu ydyw, nifer aruthrol tlodion y tir. Beth feddyliech chwi am y fiaith o fod uwchlaw miliwn, mwy na deg cant o filoedd o'r boblogaeth, yn byw, yn symud, ac yn bod ar drethoedd y wlad ? Dyna y ffaith! Y mae hefyd nifer mawr o'r miliwn hyn yn weddwon ac yn amddifaid, yn dibynu yn gwbl ar J dosbarth diwyd a darbodus o'r bobl- ogaeth; nid yn unig heb gynnorthwyo ì ychwanegu cynnyrch y tir, ond yn dîfa yn barhäus yr hyn a gynnyrchir trwy lafur a phoen y dosbarth darbodus. Yr ydym yn cŵyno fod y trethoedd yn drymion, ac nid heb achos, pryd y mae y fath faich yn pwyso arnom, ac yn gwasgu allan fêr ein hesgyrn. Y mae genym ddarpariaethau mawrion a cbost- tawr iawn ar gyfer cynnaliaeth y deg can'' mil hyn. Yr ydym yn gweled adeiladau mawrion a drudion a elwir "Gweithdai yr Undeb" yma a thraw, a'r rhai hyny yn balasau gwychion, wedi eu codi ar y llànerchau amlycaf, trwy lawer o draul. Y mae pob swllt o hyny wedi myned o logellau y treth- dalwyT. Yn yr adeiladau mawrion hyn y mae cartref y tlodion—yma y maent yn byw—bwydir hwynt hyd at ddigon, a diìledir hwynt hyd at glydwch. I ofalu am danynf, ac am eu cartref, y mae genym staff o swyddwyr a Board oj Guardians i arolygu y cwbl. Ymhlith y swyddwyr hyn, gallem enwi yr Assist- ant Överseer, y Êelieẁng Officer, Master of the House, y Matron, y Doctor, y Chaplain, &c, ynghydag amryw o fân swyddwyr eraill, a'r oll i ofalu am ac edrych dros y tlodion a'u cysylltiadau. Nid oes neb o'r frawdoliaeth gyfrifol yn gwasanaethu heb gyflog, ac nis gallwn ddysgwyl iddynt wneyd. Caiff pob un o honynt ei dalu am ei waith, ac nid ychydig o arian sydd raid gael i gadw y peiriant drudfawr i droi ymlaen bob dydd o'r fìwyddyn. Wel, y mae pob ceiniog o'r arian yn myned o logeÛau y trethdalwyr. Nid rhyfedd gan hyny fod y dosbarth goreu yn cwyno yn dôst dan bwys y baich. Eilwaith, y peth nesaf a welwn ni wrth edrych ò*n cwmpas yw nifer dir- fawr y troseddwyr, ac ercnylldra y tros-