Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. CGLXXXVI.] HYDREF, 1870. [Llyfr x»cn?i ?- YR OES HON A'R OES O'R BLAEN YN EU PERTHYNAS A METHOD- ISTIAID SIR GAERNARFON. GAN Y PARCH. HUGH ROBERTS, BANGOR. Pennod V. NODIADAU AR BREGETHWYR YR OES 0*R BLAEN. Mae yn hen bryd i mi alw sylw at y patrì- arch Robert D\fydd, Brynengan. Ni chafodd efe yn ei flynyddoedd boreuol ddim manteision crefyddol. Nid oedd yn Medd- gelert, lle yr oedd efe yn trigiannu, nag Ysgol Sabbothol, na phregethu yr efengyl; ac yr oedd yntau fel eraill yn dilyn art'er- ion llygredig yr oes hono. Adroddir yn Methodistiaeth Oymru fod Robert Jones, Rhoslàn, pan yn lled ieuanc, yn cadw ysgol ddyddiol yn llàn Beddgelert, ac y byddai yn holwyddori plant yn mhethau y Bibl. Rywfodd, tueddwyd Robert Daf- ydd yn llanc ieuanc i ddyfod i wrando ar Robert Jones yn holi y plant; a dyna a fu yn foddion argyhoeddiad iddo. Clywais ei fod pan yn 21 ml. oed yn gwrando ar yr hen bregethwr, Siôn Robert Lewis, yr hon bregeth a fu yn dra bendithiol iddo. Yr oedd ei argyhoeddiad yn ddwys, a bu yn ei drallod meddwl am bechod yn tybio pe buasai yn uffern mai llai a fuasai ei boenau. Ond cafodd olwg ar Waredwr mewn pryd; a pharod a hollol oedd ei ymgysegriad iddo. Daeth yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid; a chan fod ei berthynasau yn methu cyd-ddwyn â'i grefydd, aeth i Frynengan i fỳw; ac yno, cyn nir, de- chreuodd bregethu. Nid wyf yn gwybod fod yn Ngogledd Cymru yn yr oes o'r blaen yr un "preg- ethwr Methodist" â golwg mwy patri- archaidd arno na'r hybarch Robert Daf- ydd. Yr oedd yn ddyn tàl a chorffol, a golwg henafol a phendefìgaidd arno, ernad oedd ond mewn amgylchiadau cyffredin. Gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac yn byw mewn ardal wledig; ac yr oedd wedi myned i ŵth o oedran pan y cefais yr hyfrydwch o'i weled y waith gyntaf. Yr oedd ei wallt yn wỳn fel gwlân, ac yn llaes —yn disgyn ar ei yggwyddau, ei ddillad yn ddestlus, a'i holl berson mor lanwaith a phe buasai yn foneddwr yn byw yn ei balas. Ond nid oedd y dyn oddimewn yn cyfateb yn berffaith ymhob peth i'r dyn oddiallan. Yr oedd ynddo lawer o ddi- niweidrwydd y golomeu, eithr nid oedd mor gyfiawn â llawer o gallineb y sarph. Nid oedd yn ei oes wedi talu nemawr sylw i un gangen o wybodaeth ond yr un Fibl- aidd. Yr oedd yn gadarn yn y ffydd, er nad oedd llawer o ansawdd athrawiaethol yn ei bregethau. Yr oedd ganddo lais uchel a chryf, er nad yn soniarus nac yn effeithiol iawn. Pynciau penaf ei weinid- ogaeth oedd crefydd brofiadol, yr anghen- rheidrwydd am waith yr Ysbryd i'n byw- hâu a'n sancteiddio, a'r perygl i rai yn proffesu duwioldeb ymfoddloni ar freintiau allanol crefydd heb ei grym hi. Soniai yn fynych wrth bregethu gyda hyfrydwch am y rhagofraint oruchel a gafodd y bu- geiliaid; nid doethion a thywysogion y byd hwn, ond y bugeiliaid pan yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd, a hyny, ar a wyddai ef, pan nad oeddynt yn gweddio nac yn dysgwyl am unrhyw ym- weliad neillduoL Nodai y fath anrhydedd oedd i angel gael dyfod o'r nef i'r byd i gyhoeddi cenadwri mor ogoneddus; ao mor llawen oedd y bugeiliaid wedi clywed, gan yr angel fod Ceidwad wedi gwneyd ei ymddangosiad, ar ol bod cymaint o ddysgwyliad am dano dros gymaint o oea- oedd. '' Ceidwad," meddai, ' \un abl i gadw —y mae arnom eisieu ein cadw. Nis gall- asai Mab Duw fod yn Geidwad heb ei eni, ac nis gallasai er ei eni heb farw; ganwyd ef i farw." Byddai hefyd yn hoff iawn o fyned dros hanes y wraig o Samaria yn ymddyddan â'r Iesn wrth ffynnon Jacob : hi yn siarad am ffynnon Jacob, a'r Iesu am ffynnon y bywyd, nes yr agorwyd ei llygaid fesur ychydig ac ychydig, i adna- bodyrlesu; ac wedi ei adnabod, dynahi