Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhif. 533.] MAWRTH, 1875. [Llyfr XLV. TANGNEFEDD DUW YN LLYWODRAETHU Y GALON. GAN Y PARCH. ROBERT HUGHES, GAERWEN. Colossia.id iii. 15: " A llywodraetlied tangnefedd Duw yn eich calonau, i'r hwu hefyd eich galwyd yn un corfif." Un amcan neillduol gan yr Apostol Paul, pan yn ysgrifenu ei epistol at y Baint a'r fiyddlawn frodyr yn Nghrist, yfcrhai oedd yn Colossa, ydoedd eu di- ogelu hwynt rhag dylanwad dinystriol cyfeiliornadau. Yr oeddynt hwy yno, yn gystal ag eraill mewn lleoedd eraill yn Asia Leiaf, mewn perygl dirfawr oddiwrth hyny; canys yr oedd gwahanol ddosbarthiadau o gyfeüiornwyr yn ym- osod arnynt. Ac yn gymaint a bod y dosbarthiadau hyny mewn cyngrair â'u gilydd, yr oedd eu perygl hwythau o hyny yn fwy. Yr oedd yr athronwyr cenedlig yn dwyn i'w sylw hen dra- ddodiadau paganaidd, ac yn eu cymhell arnynt, fel pethau hanfodol crefydd. A gwaeth na hyny, yr oedd rhai o honynt yn ddigon beiddgar i geis- io gwrthbrofi gwirioneddau pwysicaf Cristionogaeth, a hyny trwy haeru nad oedd ymgnawdoliad a marwolaeth Mab Duw yn ddim amgen nag ymddangos- ìad. Yr oeddynt hwy trwy hyny yn amcanu yspeilio y saint o seüiau cryfaf eu ffydd a'u gobaith. Heblaw hyny yr oedd yr athrawon Iuddewig yn dwyn i'w sylw ddefodau y ddeddf seremon- iol, gan sicrhâu fod yn rhaid iddynt gydymffurfio â hwy, neu ynte nad ülent fod yn gadwedig. Yr oeddynt hwythau trwy hyny yn amcanu di- Wreiddio athrawiaeth cyfiawnhâd pech- adur trwy ffydd yn Nghrist, yr hon yn iinig sydd yn agor o flaen pechaduriaid adrws gobaith. Y mae yn ofidus meddwl fod cynifer o frodyT ifr ddau ddosbarth uchod yn y byd crefyddol eto. Y maent yn llîos- ogi yn ddirfawr hefyd, ae y mae llawer o honynt yn ddynion galluog a dysg- edig, yr hyn sydd yn gwneyd peryglon yr oes sydd yn codi yn llawer mwy. Y mae syniadau cyfeiliornus y naill blaid yn arwain yn naturiol i syniadau cyfeiliornus y blaid aralL Beth ond defodaeth wâg ac ofergoelus eglwysi llygredig sydd wedi peri y fath gynnydd ar anffyddiaeth, hyd yn nôd trwy holl wledydd crêd ì " Trwy ddichell ang- hyfìawnder yn yr rhai colledig, am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. Ac am hyny y danfonodd Duw iddynt hwy amryfus- edd cadarn, fel y credont gelwydd." Gwareded yr Arglwydd ieuenctyd ein heglwysi a'n Hysgolion Sabbothol rhag yr ysbryd anffyddol sydd mor hyf ac herfeiddiol yn yr oes bresennol. Yn gymaint a bod peryglon y crist- ionogion yr ysgrifenai yr apostol atynt mor ddinystriol, efe a'u cymhellai i fod yn dra gochelgar, gan ddywedyd, "Edrychwch na bo neb yn eich an- rheithio," neu ynte yn eich yspeilio o'r pethau gwerthfawrocaf sydd genych, " trwy philosophi, a gwâg dwyll, yn oí traddodiad dynion, yn 01 egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist. Oblegid ynddo Ef y mae holl gyfìawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforoL Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef," fel na raid i chwi, pa fodd bynag am eraill, droi at neb arall.am daim oll. " Yn yr hwn hefyd y'ch en- waedwyd âg enwaediad, nid o waith llaw, trwy ddyosg corff pechodau y cnawd, yn enwaediad Crist." Cystal a