Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhi«\ 539.] MEDI, 1875. [Llyfii XLV. YSTYRIAETHAU AR ADFYWIAD CREFYDDOL. GAN Y PARCH. LEWIS EDWARDS, D.D. Hose\ ii. 21—23 : " A'r dydd hwnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear; a'r ddaear a wrendy ar yr ýd, a'r gwin, a'r olew ; a hwythau a wrandawant ar Jezreel. A nii a'i hauaf hi i mi fy hun yu y ddaear, ac a drugarhâf wrth yr hon ni chawsai drugaredd ; ae a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i nii, Fy mhobl wyt ti; a hwythau a ddywedant, O fy Nuw." Pennod III. Canlyniadau y Dyweddiad. Ar ol dyweddio yr eglwys, a'i dyrchafu yn rhinwedd y weithred hono i'r an- ! rhydedd uehaf, a'r berthynas agosaf âg ; ef ei hun, y mae yr Arglwydd yn addaw ' cyfranu iddi y bendithion mwyaf a ddichon fod, trwy roddi gwrandawiad j ebrwydd i'w gweddiau, a thrwy wneu- thur ei hymdrechiadau yn foddion achubiaeth i'r byd. Fel hyn y mae yn ei bendithio, ac yn ei gwneuthur yn fendith. Y mae dyweddiad yr eglwys yn sicrhâu ei llwyddiant i ddwyn i mewn yn raddol holl genedloedd y ddaear; ac y mae y ddau wedi eu cysylltu â'u gilydd trwy weddiau yr eglwys. Felly yn ganlynol i'r dyweddio, y I fendith gyntaf a addewir ydyw, y bydd j i'r Arglwydd wrandaw gweddiau yr ' eglwys. Dyma lle mae nerth eglwys j Dduw ymhob oes ; dyma lle mae cudd- ! iad ei chryfder. Ond nid anfynych y ' mae y cryfder hwn yn guddiedig, hyd yn nôd oddiwrthi hi ei hun, o herwydd ei chysgadrwydd a'i difaterwch, a hithau oblegid hyny yn llesgâu ac yn gwywo. Yr ydym yn byw yn y fath agosrwydd atom ein hunain, fel y mae ein teimladau yn ymgymysgu â'n golygiadau am barodrwydd Duw i wranäaw gweddi, ac yn ein rhwystro i gredu wrth geisio gofyn. Ond pan fyddom yn gallu sylweddoli y dywedäiad, ac yn teimlo ei effeithiau ar y meddwl, yn ein codi uwchlaw ni ein hunain, ac uwchlaw pob rhwystrau, yna yr ydym yn nesu gyda llawn hyder ffydd, ac yn derbyn yr ateb cysurlawn, "Yn ol dy ffydd bydded i ti." Yr oedd Esther yn bryderus wrth feddwl am fyned at y brenin cyn iddo ei galw, yr hwn beth, meddai hi, nid yw gyfreithlawn, ac eto yn penderfynu myned. Ond y mae Brenin y nefoedd yn ein galw ni, ac yn addaw ein gwrandaw ymhob dim a ofynom ganddo. "A'r dydd hwnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd." Yn eu golygiad llythyrenol, cyfeiria y geiriau hyn yn ddiau at fendithion tymmorol. Yr oedd Jezreel, fel y gelwir cenedl Israel, yn dihoeni mewn prinder o drugareddau y bywyd hwn, ac yn llefain ar yr ýd, a'r gwîn, a'r olew, i roddi cynnaliaeth iddynt; ond yr ŷd, a'r gwîn, a'r olew, yn methu rhoddi gwrandawiad, am nad oedd y ddaear yn gwrandawiroddi nerth iddynt ffrwytho; ac yr oedd y ddaear yn methu gwrandaw, am nad oedd y nefoedd yn gwrandaw i roddi gwlaw; a'r nefoedd drachefn yn methu gwrandaw, am nad oedd yr Arglwydd yn gwrandaw. Ond pan ddaw yr eglwys i'w lle, y mae pob peth yn dyfod i iawn drefn : yr Arglwydd yn gwrandaw ar y nefoedd; y nefoedd yn gwrandaw ar y ddaear; y ddaear yn gwrandaw ar yr ŷd, a'r gwîn, a'r olew; a'r ŷd, a'r gwîn, a'r olew, yn gwrandaw ar Jezreel. deimlo â': û. Pan ddaw yr eglwys i ym- ì'i pherthynas a'i chysegredig-