Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"£" DETSOEFA. Rhif. 556.] CHWEFROR, 1877. [Llyfr XLVII. FFYDDLONDEB. GAN Y PARCH. JOHN PUGH, B.A., TREFFYNNON. Hebreaid iii. 5 : " A Moses yn wir a fu fyddlawn yn ei holl dŷ megys gwas, er tyst- iolaeth i'r pethau oedd i'w llefaru." Yr oedd Mose8 yn un o'r rhai mwyaf rhagorol a fu ar y ddaear erioed. Y mae yn un o'r rhai mwyaf dysglaer yn yr holl hanes ysgrythyroL Ac ni a welwn mai un o'i ragoriaethau ydoedd ffyddlondeb. Gofyna Solomon, " Pwy a gaiff ŵr ffyddlawn ì" Ond y mae i'w weled yn y testun : dyma un yn ol tystiolaeth Ysbryd Duw a fu yn ffydd- lawn yn yr holl dŷ. Effaith gwir ras ydyw peri fod dynion i fesur mwy neu lai yn dyfod i feddu y cymeriad hwn. O herwydd hyn mae yr holl saint yn cael eu galw hefyd yn ffyddloniaid. Sonìr am Moses fel un nodedig am ei larieidd-dra; ond yma codir ef i sylw o herwydd ei ffyddlondeb. Un felly ydyw y dyn duwiol: mae y gwahanol rasau yn ymddangos yn ei gymeriad. Mae yn gyffelyb i gadwen, yn yr hon y mae y gwahanol dorchau oÜ mewn undeb â'u gilydd; wedi cael gafael ar un, bydd yn hawdd cael gafael ar y lleül hefyd. Neu, y mae yn gyffelyb i'r enfys, yn yr hwn y mae yr holl liwiau yn ymddangos; ac y mae yn anhawdd, weithiau, dyweyd pa un o honynt yw y pTydferthaf. "A Moses fu ffyddlawn yn ei holl dŷ." Wrth y tŷ yr ydym i olygu eglwys Dduw ar y ddaear. Prawf o hyn yw yr hyn a ddywedir yn nês ymlaen : "Tŷ yr hwn ydym ni," medd yr apostol, " oa nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd." " A fu ffyddlawn niegys gwas." Mac hyn yn gyferbyniol i'r hyn a ddywedir yn yr adnod nesaf : "Eithr Crist megys Mab ar ei dŷ ei hun." Mae hyn wedi ei fwriadu i ddangos urddas ac uchaf- iaeth yr Arglwydd Iesu. Tra yr oedd Moses yn rheoli eraill, yr oedd efe ei hun yn cael ei reoli, oblegid gwas ydoedd. Ond am Grist, gan ei fod yn Fab, mae yn meddu llywodraeth an- nibynol. "Er tystiolaeth i'r pethau oedd i'w Uefaru." Dyna ddyben y gosodiadau y bu Moses yn foddion i'w sefydlu, sef bod yn dystiolaeth gysgodol o'r pethau oedd i gael eu llefaru yn eglur gan Grist yn ol Uaw. Sylwn ar I. NODWEDDIADAU Y DYN FFYDD- LAWN. II. Y CYMHELLIADAU I FOD YN FFYDDLAWN. I. Gellir nodi y pethau canlynol fel rhai o Nodweddiadau y dyn ffydd- lawn :— 1. Mae yn ddyn sydd yn ffyddlawn yn yr holl dŷ. Un felly ydoedd Moses. Pob gwaith a ymddiriedwyd iddo, yr oedd yn ffyddlawn ynddo. Pa un bynag ai dysgu, addoli, neu lywodraethu y gelwid ef ato, yr oedd yn ffyddlawn yn y cwbl. A phob un sydd yn meddu yr un cymeriad yn bresennol, y mae yn ffyddlawn ymhob rhan o waith y tŷ, mor bell ag y mae yn perthyn iddo. Ac y mae yn dyniuno ac yn gweddîo a:n lwyddiant ar y rharau hyny nad