Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEÍÀ. RHIF. 559.] MAI, 1877. [Llyfr XLVII. TANGNEFEDD. GA.N Y PARCH. J. F0ULKE8 J0NE3, B.A.., MA.CHYNLLETH. " Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi : nid fel y mae y byd yn rhoddi yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned."—Ioan xiv. 27. Fe allai mai y pedair pennod yma yn Efengyl Ioan (xiv.—xvii.) yw y gyfran fwyaf cysegredig o'r holl Ysgrythyr. " Mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant;" ac y mae rhagor hefyd rhwng cyfran a chyfran o'r Ysgrythyr mewn pwysigrwydd a gwerth. Y mae yr Efengylau yn hynod ymysg llyfrau y Testament Newydd; ac y mae Efengyl Ioan yn hynod ymysg yr Efengylau ; ond y mae y pennodau hyn yn hynod yn Efengyl Ioan. Teml yw y Bibl âg y mae iddi lawer o lysoedd a chyntedd- oedd ; ond y mae iddi hefyd ei chysegr. Cysegr y Dadguddiad Dwyfol yw yr Èfengylau; o herwydd yma yr ydym Íyda Mab Duw ei hun, Awdwr y Jyfr, a Pherchenog y Deml. Mae pob efrydydd meddylgar, yn dd'iau, wedi sylwi ar ryw arbenigrwydd neillduol yn Efengyl Ioan. Yn wirj pan y mae mesur o ddifrifwch ar y meddwl, a graddau o ddefosiwn yn yr ysbryd, pwy na theimla nad yw efe yma yn myned i fewn, hwnt i ryw wahanlen—i fewn i Sancteiddiolaf y Dadguddiad Dwyfol—ei fod yma wyneb yn wyneb â'r Shecinah megys, ac yn mhresennoldeb gwirioneddau tra rhag- orol a gogoneddus ì Fe allai maì drychfeddwl mawr Ioan yn ei Efengyl ydyw Person yr Arglwydd Iesu. Mae yn ymddangos mai ei Fessiaeth yn benaf sydd gan y tri chyntaf—Mat- thew, Marc, a Luc ; a dyma yr achos, o bosibl, eu bod hwy yn son cymairjt am weithredoedd Crist—ei wyrthiau, ei ddammegion, a'i fywyd cyhoeddus yn gyffredinol. Ond Person Mab Duw sydd gan Ioan. Dyma oedd yn tanio ei ysbrydoliaeth : mawredd a Dwyfol- deb y Person, a dirgelion mwyaf dwfn ei feddwl a'ì athrawiaeth. Felly yn wir y dywed Ioan ei hun wrthym: " Y pethau hyn a ysgrifenwyd, fel y credoch chwi mai Iesu yw y Crist, Mab Duw." Mae y pennodau yma, hefyd, wedi eu llefaru ar yr adeg fwyaf cysegredig yn mywyd Iesu Grist, sef, y diwrnod cyn ei farwolaeth. Yr oedd Iesu Grist yn awr yn yr oruwchystafell; ac ar ol bwyta y pasg a sefydlu y swper sanct- aidd, y mae efe yn cânu ffarwel â'i ddysgyblion, ac yn llefaru ei gyfarchiad ymadawol. Y mae, yn gyntaf oll, yn eu cysuro gyda golwg ar ei absennoldeb corfforol oddiwrthynt. Yna mae yn gwneyd ei lythyr cymyn—yn gadael ei " dangnefedd" iddynt, ac yn cy- hoeddi addewid fawr y testament new- ydd. Yn nesaf, y mae'r weddi Arch- offeiriadol yn dyfod i mewn. Dyma'r weddi ryfeddaf o holl weddiau y byd. Gweddi ryfedd oedd gweddi Solomon wrth gysegru y dçml; ond nid oedd hi ddim i'w chymharu wrth hon; gwéddi y Mab ar y Tad. Dyma'r Archoffeiriad mawr ei hun yn myned i weddi. Y mae yn troi oddiwrth yr allor, a'r aberth, a'r gwaed, at y thuser aur ; ac y mae ei weddì yntau yn myned i fyny fel mwg arogldarth lawer. Erbyn hyn yr oedd yr amser