Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Rhif. 564.] HYDREF, 1877. [Llyfr XLVII. SYLWADAU AR BREGETHU HÜNAN A PHREGETHU CRIST. GAN DR. EDWAEDS.* 2 Cohiîíthiaid iv. 5 : " Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd ; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu." Mae yn amlwg fod y geiriau hyn yn rheswm dros yr hyn a ddywedir gan yr Apostol yn yr adnodau o'r blaen ; ond at ba beth yn fwyaf neillduol yn yr adnodau hyny y maent yn cyfeirio nid yw yn hawdd penderfynu. Gellir eu cysylltu âg adnod y bedwaredd, lle y dywedir fod duw y byd hwn wedi dallu meddyliau y rhai digred, fel na thywynai iddynt lewyrch efengyl go- goniant Crist, yr hwn yw delw Daw. Mae yn rhaid mai efe sydd yn eu dallu, canys yr ydym ni yn pregethu Crist, ac nid ydym fel y gau athrawon yn ein pregethu ein hunain. Ond mwy tebyg- ol fod golwg yr Apostol ar yr holl ymresymiad blaenorol am symledd ac eglurder yr efengyl a bregethid ganddo eìa'i frodyr, heb fod ynddi ddim cudd- iedig, na chyfrwys, na thwyllodrus : " canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain." Nid ydym mewn modd cyf- rwys a thwyllodrus yn ceisio argraffu ar feddyliau y bobl fod rhyw barch arbenìg yn gweddu i ni fel rhai yn meddu hawl i ymdrin â dirgeledigaeth- au nad yw yn gyfreithlawn i bawb eu gwybod. Dyma un o nodau gau^gref- yddau; ond nid yw y nod hwn yn perthyn i ni, " canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain." Mae yn wir fod gogoniant goleuni yr efengyl yn gudd- fedig oddiwrth lawer ; ond duw y bj d hwn sydd yn eu daíhi, ac nid nyni * Dywedwyd rhanau o*r sylwadau hyn yn îîghymdeithasfa Llangeitho yn Awst diweddai. sydcl yn cuddio dim oddiwrthynt. Mor bell ydyrn oddiwrth gadw dirgeledig- aethau ì ni ein hunaîn, fel yr ydym yn awyddus i bawb weled a gwybod fel ninnau; "canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd ;" neu fel y gellir cyfieithu, " Crist Iesu yn Arglwydd." Gofyniad pwysig ydyw hwnw, Pwy sydd i bregethu1? ond gofyniad llawn mor bwysig ydyw hwn, Pwy sydd i'w bregethu ì Ac y mae yr olaf yn rhoddi atebiad i'r blaenaf; canys nid oes neb i bregethu ond sydd yn penderfynu cymeryd Crìst, ac nid efe ei hun, yn nôd ei weinidogaeth. Y ffordd i ddyn ieuanc ddeall pa un a yw yn anfonedig ai peidio ydyw, edrych yn fanwl i'w fynwes ei hun i geisio cael allan pa nôd sydd ganddo. Y mae ein Tad nefol mor dirion fel y derbynia wasanaeth tra anmherffaith os bydd yr amcan yn gywir; ond am bwy bynag sydd heb amcanu at ogouiant Crist yn y cwbl a wna, gall hwnw fod yn sicr nad yw y Tad wedi ei anfon; oblegid gwaith y Tad yn y nefoedd yw gogoneddu y Mab. A gall fod yn sicr hefyd ei fod yn ddyeithr i eglurhâd yr Ysbryd a nerth, oblegid gwaith yr Ysbryd yw gogoneddu y Mab ar y ddaear. Yr un peth yw dywedyd na ddylai neb bregethu a fyddo dan lywodraeth hunan â phe dywedem na ddylai ntb bregethu os na fydd yn dduwiol; oblegid y mae hẃnanymwadiad ya elfen anhebgorol mewn gwir grefydd, 2s