Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DHYSOHFA. ;Vî;îísî Rhif. 695.] MAI, 1880. [Llyfr L.^ LUTHER YMYSG EI GYFEILLION. GAN Y PARCH. J. HUGHES, D.D. II. Mae y Tischreden, neu y Table-talTc, yn llyfr o werth mawr mewn mwy nag un ystyr. Mae llawer o'r sylwadau yn drymion a phwysig ynddynt eu hun- ain, ar wahân i'r dyn oedd yn eu gwneuthur, ac yn gyfryw ag i haeddu sylw o enau unrhyw ddysgawdwr. ónd ychwanegir llawer at eu gwerth pan edrychwn arnynt fel y dangosiad cyflawnaf ar gael o gymeriad Luther. Ac nid ychydig yw y dyddordeb a berthyn i hanes y llyfr—hanes ei gyfan- soddiad, ei gadpraeth, a'i drosglwydd- iad o'r Almaen í'r wlad hon. Mae y Tischreden yn dwyn olion afrifed o oludoedd meddwl Luther. Canfyddir ynddo ei nerth, ei fywiogrwydd, ai barodrwydd. Dengys pa fodd yr oedd hyfder ei ymadrodd, ei onestrwydd diofn, a'i gymhariaethau syml a phri- odol, yn dwyn y gwirionedd adref at ddeall a chydwybod y werin. Gwelir ynddo pa mor ëang oedd ei wybodaeth —pa mor angerddol oedd ei eiddigedd dros wirionedd Duw—pa mor ddwfn oedd ei hoffder o'r Ysgrythyrau—pa mor ddianwadal oedd ei ymlyniad wrth athrawiaeth flydd—pa mor gryf oedd ei wrthwynebiad i gyfeiliornad ac af- reolaeth Eglwys Ehufain. Ac ni raid i ni ddarÜen ond ychydig dudalenau na ddeuwn hefyd i gyffyrddiad â'r anghysonderau ysmala oedd yn ei gy- meriad. Canfyddir y gwroldeb uchaf yn cael ei amrywio âg adegau o eiddil- wch a phetrusder: defosiwn neu dduw- iolfrydedd o'r dwysder dyfhaf yn cael ei anmharu â'r hyn a ddynodasem mewn dyn cyffredin, beth bynag am dano ef, yn ysgafnder neu ryfyg: natur hollol agored, berffaith dryloew, mewn undeb â chalíineb, yn ymylu rai pryd- iau ar gyfrwysdra: tymher gyffröedig, yn arllwys aíiau ymadroddion chwerw- on, ar wyneb cymeriad llawn sercn%- rwydd: ofergoelion a barant i chwi synu, wrth gofio fod y dyn oedd yn eu credu yn berchen meddwl cyfoethog mewn barn a synwyr cyffredin yr hwn, megys yn reddfol, a allai ar unẃaitn weled trwy honiadau gweigion y Bab- aeth: digrifwch trystfawr mewn undeb âg ysbryd o'r mwyaf difrifddwys a thymher lawn o bruddglwyfhi. Cawn engreifftiau mynych o'r am- rywiol deithi yn y llyfr; ac y mae yr amrywiaeth hwn yn ei wneuthur yn un o'r llyfrau mwyaf dyddorol ac addysgiadol mewn Üenyddiaeth. Yr ydych, ymhob tu dalen, wyneb yn wyneb âg un o'r cymeriadau mwyaf grymus ac amrywiol. Weithiau y mae y nodiad yn gyffredin, heb arddangos fawr o graffder; ond paham nad allai Luther bendwmpian ambell dro fel bodau mawrion eraill? Weithiau y mae'r sylw yn ffol; ond dywedasom fod Luther yn ofergoelus. Weithiau y mae yn dadgan ofnau disail; ond yr ydym wedi gweled fod y dyn ei hun yn bruddglwyfus ar brydiau« O her- wydd y pethau hyn y ceir ymà olwg ar ei feddwl a'i galon yn eu ^oll amryw- iaethau. Yr ydych yn awr yn edmygu nerth ei ysbryd, ac yjn y man tarewir chwi gan ddwysder ei áduwiolfrydedd, pan, mewn brawddeg ddilynoL y dygir chwi i wenu at ryw sylw ysmala, rhyw I syniad eithafol, neu rhyw dyb hygoel^ ! us. Pa fodd bynag, nis gwyddom àm