Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Ehif. 669.] GOEPHENAF, 1886. DABN 0 BBEGETH [Llyfr LVL GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN OWEN, GTNT O'R TY'N Y LLWYN, AEFON.* Luc xv. 2: " Y niae hwu yu derbyu pechaduriaid." Fe lefarodd pawb o'r bron yn dda arn Grist. Bob amser y llefara Duw arn dano, mae yn ei fawrhâu ; wrth roddi addewid am dano i'n rhieni cyntaf, dywedai y byddai iddo ysigo pen y sarph. Ac ar ol iddo ymddangos yn y cnawd, dyma dystiolaeth Duw am dano, " Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd; gwrandewch Ef." Llefarai yr angylion yn dda am dano hefyd. Dywedai yr angel pan yn rhagfynegu ei enedigaeth ; " Hwn fydd mawr ac yn elwir yn Fab y Gor- uchaf." Llefara y saint felly yn neill- duol am dano yn ei fawredd a'i ogon- iant. Dywedant mai ato Ef y bydd cynnulliad pobloedd, y bydd y llyw- odraeth ar ei ysgwydd Ef, ac na bydd- ai diwedd ar helaethrwydd ei lywodr- aeth a'i dangnefedd, y byddai i'r holl bobloedd, cenedloedd, ac ieithoedd ei wasanaethu Ef. Llefarai y cythreul- iaid hefyd am ei fawredd oddiar ofn caethwasaidd a dychryn yn yr olwg arno. " A ddaethost ti yma i'n poeni cyn yr amser? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw." Ond o bawb a lefarasant yn dda am yr Arglwýdd Iesu, yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid * Y daru hwn a anfonwyd i ni gau y Parch. J. Owen, M.A., Cricerth. Dywed efe uad oes ond pregethau ieuenctyd ei dad yn ysgrif en- edig, ac nad ydynt hwy yu gyfiawu. Gwelir fod yr hyu a gofnodir yma yn ysgrythyrol a sylweddol iawn; a byddai yn dda genyra pe gellid ein cyflenwi eto â'r rhanau eraill o'r bregeth hon, yn enwedig ani ras Crist " yu derbyn pechaduriaid." yw y rhai ag y mae yn rhyfeddaf iddynt wneyd hyny. Yr oedd ei ddar- ostyngiad yn ei sefyllfa isel yn y byd yn llèn rhyngddynt hwy â gweled ei fawredd fel Duw ; ac yr oedd eu gel- yniaeth gref tuag ato yn peri iddynt edrych yn ddirmygus arno fel un yn profíesu ei hun yn Fessiah ; ond os na lefarent yn dda am dano o'u bodd, gwnaed iddynt wneyd hyny o'u han- fodd; a'r hyn a amcanasant hwy er drwg, fel brodyr Joseph gynt, Duw a'i bwriadodd i ddaioni. Yr hyn a fwriadent hwy i iselu Crist, a fendith- iwyd gan Dduw i nerthu llawer pech- adur ar ddarfod am dano i gredu yn Nghrist. Felly yma, fel ar lawer tro arall, gwnaed i gynddaredd dyn fol- iannu Duw. Ni bu yr un dysgawdwr erioed pur- ach ei athrawiaeth na'r Arglwydd Iesu, ac eto ni bu un athrawiaeth â mwy o wrthwynebu arni na'r eiddo ef. Yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn elynion penodol iddo ; y naill blaid yn astudwyr y gyfraith, a'r blaid arall y blaid grefyddol lios- ocaf a'r sect buraf ei hegwyddorion ymhlith yr Iuddewon y dyddiau hyny; eto yr oeddynt yn gyfeiliornus ac an- ysgrythyrol mewn llawer o bethau, ac felly yn y pethau mwyaf; ac o gan- lyniad rhaid fod athrawiaeth yr Ar- glwydd Iesu yn gwrthwynebu eu hathrawiaeth hwy. Gellir crynhoi y prif bethau yn y rhai yr oedd y ddwy athrawiaeth yn gwrthwynebu eu gil-