Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSOEFA. Rhif. 670.] AWST, 1886. [Llyfr LVI. FFYDDLONDEB MEWN GOEUCHWYLWYR AR DDIRGELEDIG- AETHAU DUW. F Cynghor a draddodwyd ar Ordeiniad Saith o Bregethwyr yn Nghymdeithasfa Crcesoswallt, Mehcfin 24, 1886. GAN Y PAECH. HUGH JONES, LIVEEPOOL. (Allan o'i Lawysgrif ef ei hun.) 1 Corinthiaid iv. 1, 2: " Felly cyfrifed dyn nyni, megys gweiuidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaetb.au Duw. Am ben hyn yr ydys yn dysgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlawn." Diffyg edrych ar eu dysgawdwyr yn I yn y goleu hwn a barai yr ymgynhenu j a'r yrnbleidio ag oedd yn yr eglwys | yn Nghorinth o berthynas i wahanol | weinidogion y gair, a'u gwaith yn eu ! cymharu â'u gilydd, gan ddyrcham y j naill ar draul darostwng y llall, ac hefyd a barai i rai yn yr eglwys ddi- brisio yr oll o'r gweinidogion dan broffes o fawrygiad o, ac ymlyniad wrth Grist. Dengys yr apostol, pa fodd bynag, y dylasent, yn lle dy- wedyd eu bod un yn eiddo Paul, ac un arall ei fod yn eiddo Apolos, un arall ei fod yn eiddo Cephas, ac un arall ei fod yn eiddo Crist, ystyried fod Paul, ac Apolos, a Chephas, a phob peth, yn eiddo iddynt hwy, a hwythau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw. Yn unol â'r ystyriaeth hon, yr oedd yr apostol am iddo ef a'i frodyr gael eu cyfrif megys gwein- idogion i Grist a goruchwylwyr ar ddir- geledigaethau Duw. Nid oedd y naill na'r Uall yn ddim mwy na hyn, ac nid oedd y naill na'r llall yn ddim llai na hyn. Buasai y cyfrif hwn o hon- ynt yn rhwystr ar y ffordd i'w gor- brisio ar y naill law, a'u dibrisio ar y llaw arall. Y mae a fynom ni yn awr, pa fodd bynag, anwyl frodyr, nid yn gymaint â'r modd y dylai yr eglwys edrych arnoch chwi, ond yn hytrach oael eich sylw at y fìyddlondeb hwnw sydd yn ofynol ac a ddysgwylir oddiwrthych fel gweinidogion Crist a goruchwyl- wyr ar ddirgeledigaethau Duw. Y mae y sefyllfa yn un o ymddiried ac o gyfrifoldeb rnawr: goruchwylwyr (stewards, ar ddirgeledigaethau Duw —dirgelion ei ewyllys, ei gynghor tragywyddol gyda golwg ar iachawd- wriaeth dynolryw, darpariaeth fawr Duw ar gyfer dynion, j'n Nghrist. Gelwir yr un peth yn yr ail bennod yn ddoethineb Duw—yn ddoethineb guddiedig wedi ei rhagordeinio cyn yr oesoedd gan Dduw i'n gogoniant, y ddoethineb nad adnabu neb o dy- wysogion y byd hwn, yn gorwedd y tu hwnt i gylch golwg, clyw, a dyfais calon dyn, yn cynnwys dar- pariadau Duw i'r rhai a'i carant ef, ac felly ddirgelion a fuasent yn aros byth yn guddiedig oni buasai i Dduw eu hegluro. Ond y maent wedi eu gwneyd yn hysbys yn yr efengyl; dirgeledigaethau Duw yn y modd hwn wedi eu gwneyd yn bethau agored i'r