Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEPA. Ehif. 689.] MAWETH, 1888. [Llyfe LYIII. Y SEFYLLFA BEESENNOL. GAN Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, ABEETAWE. Ye wyf yn cymeryd yr hyfdra i osod o flaen darllenwyr y Deysorfa yr hyn yr wyf yn ei feddwl am sefyllfa bres- ennol crefydd yn ein plith. Nid oes neb yn gyfrifol am yr hyn yr wyf yn ei ysgrifenu ond fy hunan, ac nid wyf I yn dysgwyl y bydd i'r hyn a ysgrifen- i af dderbyn cymeradwyaeth fy holl j frodyr. Dichon fod rhai yn edrych ar bethau ag yr wyf fi yn eu hystyried ; yn feìus fel yn hollol ddiniwed; ac yn ; credu y gellir yn ddiberygl hebgor • rhai o'r pethau ag yr wyf fi yn eu j hystyried yn hanfodol, nid yn unig i | lwyddiant ond hefyd i fywyd crefydd yn ein gwlad ac yn y byd. Bydded hyny fel y byddo, nid i draethu syn- iadau rhai eraill yr wyf wedi cymeryd i f yny fy ysgrif ell, ond i draethu yr eiddof fy hun. Nid wyf yn hòni anffàeledig- rwydd, ond yr wyf yn meddu profiad 0 hanner canrif yn ngweinidogaeth yr Efengyl yn Nghymru, ac fe ddichon y pwysa hyny ryw gymaint gyda rhai o'm darllenwyr. Goddefer i mi egluro nad wyf yn cyfyngu fy sylwadau at y Cyfundeb i ba un yr wyf fi a'r Deys- orfa yn perthyn. Os bydd i mi ddy- wedyd pethau annymunol, nac ed- ryched neb arnynt fel addefiadau Methodist am Fethodistiaid, hyny yw, am Fethodistiaid yn unig. Yr wyf yn cymeryd golwg ar bob Enwad crefydd- 01 yn ein plith, heb eithrio yr un sydd yn anfoddlawn i gáel ei gyfrif gyda'r Enwadau. "Na ddywed," medd y Pregethwr, " paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn ? " Nid cyd- mariaeth rhwng yr hyn a fu gynt a'r hyn sydd yn awr yr wyf yn myned i'w gosod o flaen fy narllenwyr; ;ond rhai o'r pethau sydd yn ymddangos i mi nid yn unig yn annymunol, ond hefyd I yn beryglus yn yr amser presennol. I. Y MAE DIFFYG MAWR O AEGY- ; HOEDDIAD DWFN O WIEIONEDDAU CEEF- ; YDD. Yr wyf yn gobeithio nad oes llawer ; yn Nghymru yn eu gwadu, ond y mae ; yn sicr fod llawer o'r rhai sydd yn proffesu eu bod yn credu yn nwyfol- | deb yr Ysgrythyrau, heb feddu yr ar- . gyhoeddiad trwyadl hwnw o'r gwirion- edd ag sydd yn anghenrheidiol er \ effeithio ar eu holl deimladau, a llyw- ' odraethu eu holl fywyd. Y mae y ; wasg Saesoneg yn tywallt allan dor- | aeth o lenyddiaeth anffyddol; y mae | llawer o'n pobl yn darllen Saesoneg, ; ac nid yw pawb o honynt yn llwyr i ddianc rhag derbyn argraff annymunol I oddiwrth rai o'r pethau y maent yn eu darllen yn yr iaith hono. Ond y mae i ammheuon yn cyrhaedd ymhellach nag anffyddiaeth broffesedig. Y mae i dysgeidiaeth anffyddol yn cynnyrchu ; effeithiau dinystriol ]le nad yw yn | cael derbyniad agored. Y mae llawer i o'r rhai na ddywedant fod dysgawd- ■ wyr anffyddol yn d^'wedyd ygwir, heb deimlo yn berffaith sicr eu bod yn