Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEPA. Rhif. 693.] GORPHENAF, 1888. [Llyfr LYIII. LLWYDDIANT CENHADAETH DRAMOR Y METHODISTIAID CALFINAIDD. GAN Y PAECH. JOSIAH THOMAS, M.A., YSGBIFENYDD Y GYMDEITHAS GENHADOL DRAMOR. (A barotowydr ac a gyhoeddir trwy orchymyn y Gymcmfa Gyfredinol.) Yn unol â'r penderfyniad a basiwyd yn y Gymanfa Gyfîredinol ddiweddaf, ceisiaf wneyd rhyw fath o gyferbyn- iad rhwng y llwyddiant sydd wedi dilyn ymdrechiadau ein Cenhadaeth ni â'r eiddo Cenhadaethau Efengylaidd eraill. Y mae cryn anhawsder, os nad yn wir anmhosiblrwydd hollol, i allu gwneyd hyn gyda thegwch trwyadl, o herwydd fod yn anghenrheidiol cymeryd cynifer o bethau i ystyriaeth nas gellir eu cymharu oll â'u gilydd ar yr un pryd. Dylid, er esiampl, wrth gymharu llwyddiant cyferbyn- iol dwy Genhadaeth, ystyried sefyll- fa y bobl y byddont yn llafurio yn eu mysg, pa un ai anwar- iaid heb iaith ysgrifenedig ai cenedl wedi cyrhaedd gradd uchel mewn gwareiddiad. Y mae yn wybyddus drachefn fod gwahaniaeth dirfawr rhwng amrywio] lwythau anwaraidd o ran eu tuedd i dderbyn dylanwadau oddiallan. Newidiodd rhai o lwythau Ynysoedd y Môr Tawel eu crefydd yn gwbl inewn ychydig amser. Y mae yn yr eglwys y bu Dr. John Geddie yn llafurio ynddi yn ynys Aneitym, tablet âg arni y geiriau a ganlyn: " "When he landed in 1848 there were no Christians here, when he left in 1872 there were no heathens." Y mae ar y llaw arall lwythau eraill o anwariaid yn glynu mor gyndyn wrfch eu hen arferion fel na lwyddwyd mewrf- agos gynifer o flynyddoedd ag y bu Geddie yn llafurio yn Aneitym i gael gan gymaint ag un o honynt i dderbyn yr Efengyl. Drachefn y mae gwa- haniaeth dirfawr rhwng cenedloedd gwareiddiedig yn eu parodrwydd i dderbyn syniadau newyddion, fel y gwelir yn y dyddiau hyn yn arbenig yn hanes y Japanese a'r Hindwaid. Byddai yn anghenrheidiol cymharu hefyd nifer y cenhadon, ynghyd a nifer y blynyddoedd y buont yn llafurio. Hefyd, pa amgylchiadau oddiallan, megys dylanwad llywodraethau^wlad- ol, allasent fod yn ffafriol neu yn anffafriol i'r gwaith. Y mae yn anghen- rheidiol crybwyll na bydd unrhyw gymhariaeth yn holìol foddhaol heb gymeryd i mewn yr ystyriaethau hyn ac eraill y gallesid eu nodi. Er esiampl, prin y mae yn deg cymharu llwyddiant presennol cenhadaeth a sef- ydlwyd saith mlynedd a deugain yn ol, â Uwyddiant y Societyfor the Propaga- tion ofthe Gospel a sefydlwyd yn 1701, neu Genhadaeth y Bedyddwyr a sefydl- wyd yn 1792, neu Gymdeithas Gen- hadol Llundain a sefydlwyd yn 1795, neu y Church Missionary Society