Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEPA. Rhif. 709.] TACHWEDD, 1889. [Llyfr LIX. YR ATHRAWIAETH 0 DRAGYWYDDOL GOSB. GAN Y PARCH. EVAN ROBERTS, DYFFRYN. Matthbw xxv. 46: " A'r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragywyddol." Beth fydd sefyllfa yr annuwiol yn y byd a ddaw ? A fydd pob gobaith wedi ei adael ar ol, neu ynte a oes _j;hyw ofêaith eto wedi ei osod o'i fîaen ? jDyrna ofyniad sydd yn destun cryn ddadl, ac yn creu nid ychydig o gyn- hwrfy^yr Eglwys Gristionogol yn y dyddiau hyn. Dyma un o bynciau y Down Grade—" Dadl y Goriwaered." Hyn yn benaf sydd wedi peri i Mr. Spurgeon gilio o Undeb y Bedyddwyr. Dywedodd Dr. Hannay, Ysgrifenydd yr Undeb Cynnulleidfaol, ynddiwedd- ar, fod yr " Athrawiaeth o dragywydd- ol gosb wedi marw yn yr Enwad hwnw, a rhywbeth arall yn cael ei bregethu yn ei lle." Profodd ym- chwiliad fod llawer o wir yn y dyst- iolaeth hon, er nad yn hollol gywir. O drugaredd, nid yw y cynhwrf hwn yn cythryblu Eglwysi Cymru hyd yn hyn. Ond er nad yw y fflam wedi tori allan, y mae yn eglur fod y tân yn mud«losgi yn ddirgelaidd mewn Uawer man. Mewn lle bychan dinod iawn, dywedwyd wrthym yn ddiwedd- ar, fod yno liaws yn diystyru yr ath- rawiaeth o dragywyddol gosb. Haer- ent nad ydyw y pregethwyr belJach yn ei phregethu, na'r gwrandawyr yn ei chredu—ei bod wedi marw. Yn wyneb hyn, barnwyd mai nid anfudd- ìol fuasai dwyn y mater pwysig hwn dan sylw darllenwyr y Drysorfa. Nid buddiol yn ddiau cynhyrfu dadl ddianghenrhaid; ond nid doeth ydyw anwybyddu peryglon ac anhawsderau ein gwrandäwyr; ac yn sicr nid gwrol ydyw peidio pregethu unrhyw wirion- I edd am ei fod yn anmhoblogaidd. i Ceisiwn yn bwyllog ymdrin â'r pwnc | trwy nodi dau beth. I. Y GWRTHWYNEBIADAU A DDYGIR | YN ERBYN YR ATHRAWIAETH HON. Ni oddef gofod i ni gynnyg bod yn , hysbyddol, dim ond ychydig o sylwad- : au awgrymiadol ar hyn. 1. Ei bod yn holiol groes i nafcur Duw, ac yn gwbl anghyson â'i anfeid- j rol garedigrwydd. " Duw cariad yw." i Dyna adnod fawr, a bron unig adnod, ; pleidwyr iachawdwriaeth " ar ol marw "—post mortem. Cariad ydyw '■ natur hanfod Duw, meddent; a chan 1 fod yr athrawiaeth yn cymylu ei gar- I iad, mae hi yn rhwym o fod yn ang- I hywir. Y mae yn anmhosibl dyweyd ; gormod am gariad Duw. " Felly y j carodd Duw y byd." Mae yn hunan- gynhyrfiol, yn angerddol, ac yn an- feidrol, fel y mae yn amlygu ei hun yn y gwrthddrychau annheilwng a garodd, a'r rhodd anfeidrol a roddodd. Yr un modd hefyd yn ei " hiramyueo'd, ei oddefgarwch, a'i ymaros," yn goddef yr annuwiol ar y ddaear, a'i dywys trwy ddaioni i edifeirwch. " Heb ewyllysio bod neh yn golledig." Nid o'i fodd—nid o bl^er na hyfrydwch— y damnia efe neb, nac hyd yn nod y "blina efe blant dynion." Ond ni ddylem roddi y fath arbenigrwydd ar un gwirionedd, fel ag i guddio gwir-