Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DETSOEFA. Ehif 747.] IONAWE, 1893. [Llyfe LXIII. AT DDAELLENWYE Y DBYSOEFÁ. Mae yn debyg y gweddai i'r Golygydd newydd ddyweyd ychydig eiriau mewn ôbrdd o gyflwyno ei hun i sylw y darllenwyr. Goddefer iddo ddyweyd, gan hyny, yn gyntaf oll, ei fod yn tehnlo ac yn cydnabod yr anrhydedd a roddwyd arno wrth ei alw i olynu y gwŷr galluog a hybwyll a'i rhagflaen- asant yn y swydd. Ehaid priodoli Uwyddiant y Drysorfa yn ngwasan- aeth y Cyfundeb, a'r cymeriad uchel sydd iddi ymhlith y Cylchgronau Cymreig, i'r mesur mwyaf, i allu, a chwaeth, a barn yr hen Olygwyr. Pe nad am ddim arall, y mae hyn yn ddigon i beri deall na ddaeth yr anrhydedd heb ddwyn gydag ef gyfrif- oldeb—cyfrifoldeb sy'n achos o gryn lawer o bryder. O'r dechreuad, er dyddiau Mr. Charles a Mr. Thomas Jones, mae y Drysorfa wedi rhoddi y lle blaenaf i Lenyddiaeth Fiblaidd a Duwinydd- iaeth, ac i addysg a goleddai fywyd ysbrydol ac ymarweddiad ffrwythlon asanctaidd. Appelia y Golygydd yn daer at y llîaws o frodyr dysgedig a phrofiadol sydd yn y Cyfundeb am wasanaeth eu dawn a'u profiad hwy i wneuthur ein Cylchgrawn yr un mor werthfawr a defnyddiol yn y pethau hyn eto yn y dyfodol. Honwn, weithiau, ein bod yn genedl o dduwin- yddion; ac y mae y gair wedi myned allan rywfodd, o gadair na feiddia neb ei diystyru, mai y gwaith neillduol sy'n debyg o roi hawl i ni fyw a chymeryd ein lle ymysg cenedloedd y ddaear ydyw—dysgu Duwhiyddiaeth a Chrefydd i'r byd. Er mor ddyrchaf- edig yw prophwydoliaeth yr oracl, nid yw yn anhygoel am genedl y mwyd- wyd ei mebyd âg olew ìr Hymnau duwinyddol ac efengylaidd Williams, Pantycelyn. Pob rhwydd-deb i'n " Cymrodorion," a'n " Cymru Fydd," a'n "Dafydd ap Gwilym" i wneyd Cymru yn fwy anwyl ac enwog, a'r Cymry yn fwy o Gymry nag erioed. Wrth bawb a yinestynant at y fath amcan teilwng, dywedwn o'n calon— Ehad Duw arnoch! Ond, nac anghofied ein gwŷr ieuainc " cryfion " mai bara ein cenedl ni ydyw ei Chrefydd. Yn enw Duw, gofaler am roddi y lle uchaf i ffydd Cymru Fu! Yr Ysgol Sab- bothol, a'i Llyfr Dwyfol, a achubodd ac a gyfododd ein cenedl ni pan oedd ar ddibyn difancoll—pan ar ymgolli yn ngorllif trochwyllt y diluw Sacsonaidd. Hŷd a lled a dyfnder pynciau duwin- yddiaeth, a dirgeledigaethau duwioldeb, addeffroddac agoleddodd athrylith ein tadau; ac yr ydymyn ddyledus heddyw am bob braint a rhagoriaeth a feddwn i ddwyfoldeb ein crefydd. Weithian, pan y mae genym Athro- feydd Duwinyddol, yr ydym yn dysgwyl gyda phob hyder y ceidw Duwinyddiaeth ei gorsedd yn oruchaf yn ein gwlad, ac y pery y Cyrnry i gynnyddu mewn nerth meddyliol, ac i ddadblygu eu hathrylith a'u doniau gwahaniaethol, wrth ymgodymu â'i