Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X IDHYSOIRIFA. Ehif 749.] MAWETH, 1893. [Llyfe LXIII. ME. EOBEET EOWLAND, Ü.H., TRYSORYDD CYMDEITHASFA Y GOGLEDD. Daw yr amser—gobeithiwn ei fod ymhell—pryd y bydd yn hawdd i rywun ddywedyd yn ddirwystr am ragoriaethau y boneddwr y gwelir ei ddarlun yma. Àdwaenir ei bresennoldeb yn dda gan lawer o'n darflenwyr, ae y mae ei enw.a'i le ynglŷn â synmdiadau ein Cyfundeb yn hysbys i nifer mwy. Dyrchafwyd ef i'r sefyllfa o gyhoeddusrwydd a pharch y mae yn ei dal, a chynnelir ef ynddi, gan ei barodrwydd gwastadol a'i ffyddlondeb diball i wasanaethu yn nheyrnas ei Arglwydd. Nid yn ein Cymdeithasfaoedd yn unig y mae yn fywiog a dawnus ; ond adwaenir ef yn ei gartref bob amser fel gweithiwr diflino. Bydded ei ddiwrnod yn hir, a'i ddiwedydd yn dawel.