Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y. DEYSOEEA. Rhif. 604.] CHWEFROR, 1881. [Llypr LI. YMADAWIAD ODDIWRTH Y FFYDD. GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, D.D. Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod y Gweinidogion Cymreig, o'r gwahanol Enwadau, yn Lẁeryool, Rhagfyr 13t'</, 1880. Nid oes dim sydd amlycach i'r rhai sydd i ryw fesur yn gydnabyddus âg agwedd bresennol crefydd ymhlith yr amrywiol Enwadau yn ein teyrnas, na bod yr hyn a ellir alw, oddiar ein safle ni, yn ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd, yn cymeryd lle ynddi y dydd- iau hyn. Heb sôn am y rhai sydd yn gwadu Bôd Duw, neu yn hòni fod sicrwydd am ei fodolaeth yn anmhos- iblrwydd hollol i ni; neu y rhai. er defnyddio y gair, nad ydynt yn medd- wl mwy wrtho na bodolaeth yn gyff- redinol, yn cynnwys pob peth, neu yr oll sydd yn bod, megys ymweddiad ar rywbeth tragywyddol ac anghenrheid- iol, i'r hyn er hyny rad oes un hanfod- iad personol ar wahân oddiwrth ac annibynol ar bob peth—ac heb sôn am y rhai sydd yn gwrthod yn hollol ys- brydoliaeth ac awduTdod yr Ysgryth- yrau sanctaidd, gan eu gosod yn gwbl ar yr unHir â llyfrau cyffredin ;—y mae yn hysbys fod, yrahlith y rhai sydd yn eu cydnabod ac yn eu galw eu hunain yn gristionogion, liaws mawr erbyn hyn yn gwrthod yn gwbl rai o'r gwir- ioneddau yr aríerid edrych arnynt yn cael eu dysgu yn amlwg ac yn ddi- amwys yn y Testament Newydd, ac a ystyrid bob amser yn hanfodol i'r ef- engyl. Mae y syniadau llydain ac am- mneus a ddysgir yn y gyfrol a elwir Essays and Beviews, a'r rhai, ar gy- hoeddiad cyntaf y llyfr hwnw, tuag ugain mlynedd yn ol, a, barasant y fath gyffro yn y deyrnas, yn awr, ac mewn gwedd llawer mwy eithafol, yn cael eu coleddu a'u pregethu gan liaws o fewn muriau yr Eglwys Ẁladol. Mae yr un syniadau, i fesur mawr, fel y mae yn eglur oddiwrth y gyfrol o Scotch Sermons, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cael eu dysgu gan liaws yn Eglwys Sefydledig Scotland, ac yn ymledaenu yn gyflym ymhlith ei haelodau hi. Y mae yn wybyddus i ni hefyd fod yr nn syniadau, neu rai cyfathrachol iddynt, yn cael eu derbyn a'u dysgu gan gryn nifer o'n brodyr Ymneillduol yn Lloegr, a bod rhyw gymaint o'r un gogwydd yn cael ei ddangos ymysg y Presbyter- iaid Unedig ( United Presbyterians), ac hyd yn nôd yn yr Eglwys Rydd, yn Scotland. Yr ydym ni fel cenedl yn Nghymru ac yn nhrefi Lloegr wedi cael ein cadw yn rhyfedd, hyd yma, rhag y syniadan hyn ; o leiaf, nid ydym yn gwybod am neb yn ein píith yn dadleu yn gyhoedd- us drostynt, ac ni chlywsom am gy- maint âg un eplwys wedi cael dim blinder oddiwrth yr un o'i haelodan o'u plegid. Ond y mae yn bosibl ein bod oll yn gwybod am bersonau neill- duol yn ein heglwysi, rhai lled ieuainc a rhai mewn oedran addfetach, ag.Iy mae eu ffydd yn yr efengyl, megys ag y dysgwyd hwy ynddi gan eu tadau, i fesur wedi ei siglo ganddynt, ac yn dy- oddef yn ddwys o herwydd hyny; ac ni a ddylem fod yn ddiolchgar i'r Ar- glwydd nad ydyw nifer y cyfryw raî yn llawer mwy. Eithr, a chasglu