Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Rhif. 605.] MAWRTH, 1881. [IiLYFR LI. GALARU AR OL YR ARGLWYDD. Oalwad yr Amserau hyn. 1 Samuel vii. 2 : " A lioll dỳ Israel a alarasant ar ol yr Arglwydd." Adroddia.d sydd yma am ddechreuad adfywiad mawr ar grefydd yn Israel yn amser Samuel, ar ol hir adfeiliad. Yr oedd Siloh, lle y buasai cysegr ac arch Duw yn aros er dyddiau Josuah, sef am dri chan' mlynedd, erbyn hyn wedi colli yr anrhydedd o fod yn drig- fan ordinhadau yr Arglwydd ; yr arch, ar ol ei chymeryd ymlaenaf i dir y gelyn, wedi bod bellach er ys ugain mlynedd mewn tŷ annedd yn Ciriath- Jearim, yn meusydd y coed, ac nid yn un o ddinasoedd yr offeiriaid ; yno heb odid neb yn ymofyn, nac yn ymdra- fferthu yn ei chylch, a'r genedl wedi suddo mewn anwybodauth a llygredig- aeth. Gallwn dybied fod Samuel, yn y tymmor adfeiliedig hwn ar wir gref- ydd, yn llafurio yn ddyfal fel un wedi ei osod gan Dduw yn wyliedydd i dŷ Israel, yn myned oddiamgylch i ry- buddio a, dysgu'r bobl, gan daer-weddio am fendith yr Arglwydd ar ei lafur- waith, canys yr oedd Samuel yn neill- duol i'w restru " ymysg y rhai a alwent ar ei enw ;" ac yr oedd holl Israel yn gwybod mai prophwyd ffyddlawn i'r Arglwydd ydoedd. Ond y mae yn debyg iddo fod am amser maith, yn enwedig am yr ugain nilynedd a nod- wyd, heb weled nemor ffrwyth ar ei ymdrech yn achos y gwirionedd ; ac eto yr oedd efe, fel yr arddwr yn ar- edig mewn gobaith, yn dal i wneuthur daioni heb ddiffygio. O'r diwedd, dyma ddiwygiad crefyddol yn tori allan ; yr hâd da a fwriwyd i'r ddaear wedi egino a thyfu mewn modd nas gwyddai Sam- ueL Dyma un yma ac uu acw o'r bobl yn dechre teimlo eu hanghen am Dduw, yn ymofidio am iddynt gilio oddiwrtho ef, ac iddo yntau eu gadael felly iddynt eu hunain, ac yn taer ddymuno adter- iad i'w rhagorfreintiau blaenorol; a dyma'r dwys-deimlad hwn yn myned rhagddo, fel lefain yn y blawd yn leí'einio yr holl does, nes y mae yr holl wlad ar fyrder wedi dyfod i hiraethu a sychedu am y Duw byw : " A holl dŷ Israel a alarasant ar ol yr Ar- glwydd." Mae vr ymadrodd "galaru ar ol yr Arglwydíl,"'meddir, wedi ei gymeryd odaiwrth waith un yn dilyn rhywnn arall gyda cljais a chwynfan, heb gym- eryd ei ommedd ganddo ; megyâ y dywedai'r dysgyblion am y wraig o Ganaan, pan y mynent, er mwyn cael llonydd ganddj, i'w H ìrglwydd wrando arni. "Ý mae hi yn llefain ar ein hôl." Gwelir fod yr Israeliaid yn awr mewn ysbryd edifeiriol a gweddiol. Yr oedd eu galar ar ol yr Arglwydd yn wylofain am golli yr Arglwydd, ac yn llefuin am gael yr Arglwydd drachefn. Yn yr adnodau canlynol cawn Sam- uel yn gwneuthur y defnydd goreu o'r cynhytfiad iachusol hwn, gan wasgu ar y bobl rhag iddynt aros ar deimlad a phroffes, eitbr dwyn ffrwythau addas i edifeirwch. Ac ni bu ei rybuddion a'i annogaethau yn ofer. Wele'r galaru ar ol yr Arglwydd yn ymweithio yn ddychweliad at yr Argíwydd; ac y mae yr Arglwydd yn dychwelyd at ei bobl, ac yn rhoddi prawf o'i ewyllys da mewn estyn iddynt oruchafiaeth hynod a hollol ar ea gelynion.