Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DETSOEEA. Rhif. 608.] MEHEFIN, 1881. [Llyfr LI. IOAN Y DYSGYBL ANWYL. GAN Y PARCH. J. OGWEN JONES, B.A., RHYL. II. Ei Gymeriad. Yr ydym eisoes wedi ymdrechu nodi amryw o brydweddion neillduol cymer- iad yr apostol Ioan fel y maent yn dyfod i'r golwg yma a thraw yn amgylchiadau ei iywyd. Ceisiwn yn bresennol roddi darluniad cryno o hono yn ei wedd gy- ffredinol. Dywed Deon Stanley y gellir crynhoi holl gymeriad Ioan yn yr ym- adrodd a ddeí'nyddia am dano ei hun, sef "y dysgybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu ;" ac ar ryw gyfrif y mae y dywediad yn eithaf cywir. Ond y mae y cwestiwn yn aros, Pa bethau yn nghymeriad Ioan oedd yn peri iddo ymddangos yn hawddgar i'r Iesu, o ran meddwl, serch, ac ewyllys ] Y mae yr atebion sydd wedi eu rhoddi gan wa- hanol awduron i'r cwestiwn hwn yn arddangos cryn amrywiaeth barn a syniad. Gallwn fod yn sicr, pa fodd bynag, ei fod ef o ran meddwl yn fedd- iannol wrth naturiaeth ar alluoedd cryfion iawn. Ymddengys ei fod yn berchen dau allu gwrthgyferbyniol i'w gilydd, a hyny i raddau tra helaeth : un o natur oddefol, a'r llall o natur weithredol. Yr oedd yn alluog, ar un llaw, i dderbyn i mewn argraffiadau cywir a chryfion o'r hyn a gyflwynid i'w sylw. Yr oedd dyfroedd tawel a dysglaer ei fyfyrdod yn abl i sugno i mewn belydrau y gwrthddrychau oedd o'i amgylch, fel ag i'w hadbelydru yn eu prydferthwch cynhenid eu hunain. Gellid meddwl iddo etifeddu y gallu hwn oddiwrth ei dad Zebedeus, yr hwn, yn ol pob awgrym, oedd yn. " un o heddychol ffyddloniaid Israel." Ond ar gyfer y gaÜu hwnw yr oedd hefyd yn etifeddu yr un gwrthgyferbyniol, oddiwrth ei íam Salome, sef y gallu i roddi ffurf a gwedd ei feddwl ei hun ar wrthddrychau, wrth eu cyflwyno yn ol i sylw eraill, fel ag i gyfansoddi math o fffamwaith iddynt yn y meddwl. Anaml y cyfarfyddwn â'r ddau allu yma, y derbyniadol a'r ffurfiadol, gyd- a'u gilydd i raddau nodedig; ond yr oeddynt felly yn Ioan, a hyny yn ddiau trwy ragdrefniad Dwyfol i ateb dyben- ion pw^ysig. Y mae gallu meddyliol arall, yn yr hwn yr oedd Ioan yn ddiffygiol, sef yr un creadigol. Nid ydyw yn anhawdd i ni ddyfalu paham yr oedd y diffyg o hwnw iddo ef, i ateb dyben arbenig ei waith fel efengylwr duwinyddol, yn anghenrheidiol a phwysig. Ei le a'i waith ef ydoedd portreadu y Gwrth- ddrych mawr oedd wedi denu ei serch a'i fryd mor hollol, fel y gwelodd ef— fel yr argraffodd ei hun ar ei holl enaid, a hyny yn ol teithi ac yn ffurfiau ei feddwí ei hun. Buasai y duedd a'r gallu i greu, yn anfanteisiol er cwblhâu y gwaith hwn yn briodol. Yn y gallu cyntaf a nodwyd, sef derbyn i mewn, yr oedd Ioan yn tra rhagori ar ei gyd- ddysgyblion o ran cyflawnder a manyl- rwydd. Wrth alw y gallu hwn yn un goddefol, nid ydys yn golygu ei fod felly yn hollol, eithr yn gymhariaethol; oblegid nis gall y meddwl dyiiol dder- byn i mewn heb weithredu. Ond y