Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X DEYSOEFA. Ehif. 610.] AWST, 1881. [Llyfr LI. AE Y FFOEDD I DAMASCUS. GAN Y PARCH. WILLIAM JONES, PENRHYNDEUDRAETH. Un o'r geiriau cyntaf a ddywedir gan y nefoedd am Saul o Taraus ydyw, " Canys wele y mae yn gweddio " (Act. ix. 11); ond yr oedd wedi siarad wrtho cjn hyny ar y ffordd. Nid dyma y tro cyntâf iddo dori geiriau gweddi, oblegid yr oedd ei hanes yn llawn o ddefodau crefydd cyn hyn ; ond dyma y tro cyntaf erioed iddo weddio yn nghyfrif y nefoedd. Y mae lliaws yn myned trwy ffurfiau gweddi heb wedd- io. Dyma y tro mawr yn hanes y dyn hwn, a dyma y tro mawr yn hanes pob un a gedwir : ei gael i lawr. Hanes yr eglwys ydyw llyfr yr Actau, neu yn hytrach parhâd o hanes Crist. Dywed yr hanesydd ysbrydol- edig yn yr adnod gyntaf yn y llyfr, "Y traethawd cyntaf a wnaethum, 0 Theophilus," gan gyfeirio, yn ddiam- mheuol, at y Drydedd Efengyl," am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu." Nid ydyw yr Iesu weài gorphen "gwneuthur a dysgu" yn y byd. Yr hyn sydd yn gwneyd i fyny hanes yr eglwys ar y ddaear, neu, hanes Crist yn ei eg- lwys, ydyw troi dynion. " Yn nyddiau ei gnawd," mynad oddiamgylch gan wneuthur daioni yr ydoedd. Efe a wna yr un peth eto, mewn ystyr ys- brydol, yn a thrwy ei eglwys. Y mae y lle mawr a roddir i hanes tròedigaeth Paul, yn y gyfrol ysbryd- oledig, yn dangos pwysigrwydd yr amgyichiad fel rhan o hanes yr eglwys. iSid hanes Paul a ysgrifenir gan Luc yn llyfr yr Actau, eithr hanes yr eglwys; ond y mae hanea Paul yn gyflawn iawn yma, am ei fod yn ddolen bwysig yn nghadwen hanes yr eglwys. Nid llyfr o gofiantau ydyw y Bibl, er ei fod yn llawn iawn o hanes dynion. Hanes y gwaith mawr a wneir gan Dduw yn y byd a gynnwysir ynddo ; ac i'r graddau ag y mae dynion yn dyfod i gyffyrddiad â'r gwaith hwnw, y mae eu hanes yn dyfod yn werth ei gadw. Un o ddiwrnodau pwysig yr eglwys, o dan y testament newydd, yn more ei hanes, ydoedd y diwrnod. y daliwyd Paul, ar y ffordd i Damascus. Diwrnod mawr yn hanes Paul, ie, a diwrnod mawr yn hanes yr eglwys hefyd, ydoedd. Dyma un o'r camrau cyntaf tuag at ryddhâu yr eglwys oddi- with rwymau Iuddewiaeth, a'i gosod ar dir manteisiol i gyfeirio ei chenad- aeth at yr holl fyd—efengyl i ddynion. Y mae camrau pellach ymlaen wedi hyn yn cael eu gwneyd yn y cyfeir- iad hwn yn hanes gweledigaeth Pedr yn Joppa, a bedyddiad Cornelius. Dyna y rheswm am fanylwch yr hanes- ydd yn cofnodi yr amgylchiadau hyn. Ond ar dröedigaeth Paul fel ag y mae yn dal perthynas ag ef ei hun y cawn ni sylwi yn bresennol. Hwn ydyw yr amgylchiad pwysicaf yn ei hanes. Y mae ger bron ei olwg, ac yn ei brofiad yn barhâus. Nid ydyw wedi colli golwg ar yr hanner dydd ar y ffordd hyd hed Jyw, ac ni welir ef wedi cerdded ymlaen o'i olwg byth. Yr oedd lliaws o amgylchiadau ynglŷn â thröedigaeth Paul nad ydynt ynglŷn â thröedigaeth neb arall; ond am bethau mawr hanfodol tröedigaeth pechadur at Dduw, y maent yr un yn hanes pawb. Ni a edrychwn ar rai o'r pethau hyay fel yr eglurir hwynt yn yr hanes hwn.