Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Bhif. XVII.] MAI, 1832. [Llyfr ii. SYLWEDD PEE3ETH A bregethwyd y'Nghapel y Trefnyddion Calirinaidd yn Llanfair Caer- einion, Gorphenhaf 24, 1831, gan John Hughes, Pont Bobert, Sîr Drefaldwyn, wedi ei hysgrifenu ganddo ef ei hun. " A'r Arglwydd Dduw a gytumerndd y dyn, ac a'i goBododd yn ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi. A'r Ârglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwytta y gelli fwytta; ond o brei» gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono ; oblegid yn y dydd y bwyttai di w hono, gan farw y byddi farw."—Gen. ii. 15, 16, 17. Y mae o'r pwys mwyaf tuag at iawn ddeall lluaws o ysgrytliyrau, a thuag at fod yn gywir yn ein barn yn nghorph yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ein bod yn iawn ddeall y Cyfammodau. Dau Gyfammod by wyd a wnaeth Duw; sef y cyfammod o weith- redoedd ag Adda yn Eden, fel pen cynddrychiolwr ei had natur- iol: a'r cyfammod tragywyddol â Christ fel pen cynddrychiolwr ei had ysprydol. Y mae amlyg- rwydd yn yr ysgrythyrau am am. ryw gyfammodau ereill, megys cyfammod Noah, cyfaramod Ab- raham, eyfammod Seinai, cyfam- mod yr offeiriadaeth, cyfammod Dafydd, a'r cyfammod newydd. Y mae y cyfammodau hyn i'w golygu yn orchwyliaethau, neu osodiadau, trwy ba rai yr oedd Duw yn amlygu trefn y cyfammod tragywyddol â Christ, er iachawd- wriaeth pechaduriaid. A than y gosodiadau hyn yr oedd gwein- yddiad o fendithion y cyfammod grasol a thragywyddol feì ag y *uae dan y cyfammod newydd yn y dyddiau diweddaf hyn. Yn y bennod o'r blaen y cawn hanes gwaith Duw yn creu'r nef- oedd a'r ddaear, a'r oll sydd yn- ddynt, mewn chwe diwrnod, ac yn nechreu y bennod hon y cawn hanes iddo orphwys y seithfed dydd oddiwrth ei holl waith oj greu, ac hefyd adolygiad ar ra pethau o waith y greadigaeth, a'r modd y creodd efe ddyn : cyd- mharer pen. i. 26—28 a'r 7&d adnod o'r bennod hon. Ac yrau hefyd y cawn hanes am waith yr Arglwydd Dduw yn plannu gardd yn Eden, ac am yrafon yn myneíl âllan o Eden i ddyfrhau yr arddt ac am rauiad yr afon o'r ardd yn bedwar pen. Ac yn y geiriau a ddarllenwyd yn destyn y cawn hanes am yr Arglwydd Dduw yn cymeryd y dyn ac yn ei osod yn ngardd Edea i'w llafurio ac i'w chadw, ac yn ganlynol yn gwneud cyfammod ag ef fel pen cyn- ddrychiolwr ei hâd. Y mae yu dra amlwg fod y dyn cyntaf hwn dan y ddeddf a alwn y foesol, cyn i'r Arglwydd Dduw wneud y cyfammod hwn ag ef; yr oedd delw Duw, ar ba un y crewvd ef,