Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA, Rhif. xix.] GORPHENAF, 1832. [Llyfr h. PIGION O GYFARCHIAD I FORWYR. A draddodwyd ger gwydd Cymdeithas Fihlaidd Forawl Portland, gan y diweddar Barch. Dr, Payson, o'r America. Y mae morwyr yn ddosparth lluosawg a defnyddiol o wyr gwledydd masgnachol. Y maent megys cadwaen cysylltiad rhwng gwahanol genhedloedd a rhanau j y byd a'u gilydd. At yr hir-es- geuluso! ddosparth hwn, y mae haelfrydedd crist'nogol yn awr yn estyn ei llaw. Yr awr hon y mae morwyr yn neillduol yn cael eu gwahodd i addoli Duw, a gall cist pob morwr gynwys y trysor anghydwerth hwnw, y Hyfr a all wneud dynion ýn ddoeth i iachawdwriaeth. Forwyr, yr ydym yn llawen- ychu ymhob cais a wneir er eich lleshau. Ac yn awyddus y'ch croesawn fil o weithiau i deml yr Hwn sydd Dduw i chwi cy- gystal ac i ninnau. Croesaw, croesaw, forwr blinedig, hin- guredigi'r man y mae gorphwysfa i'r blinedig yn cael ei gynyg yn enw Iesu Grist. Erddoch chwi v ffurfiwyd y Gymdeithas Fibl- aidd hon. Erddoch chwi y trefnwyd y cyfarfod hwn. Er- ddoch chwi yr esgynodd ein cyd-weddi'au yr awr hon ger bron trugareddfa y nef. Chwychwi megys cyfeillion a brodyr, y mae y llefarydd yn amcanu eu cyfarch yn awr. A pha ham y mae yn eich cyfarch chwi ? Pa ham y gwahoddasom ac y croesawasom chwi yma yr hwyr hwn ? Am mai eincydgrëaduriaid, a'n cyd- attfarẁofioir ydych. Am eich bod yn gydforwyr a nyni ar lestr fawr y byd hwn, a'n bod yn cydhwylio tua gororau tragy- wyddolfyd. Obleayd bod gen- nych ryw beth o mewn sydd yn meddwl ac yn teimlo, ac enaid anfarwol yw y rhywbeth hwnw; enaid annhraethol werthfawrus- ach nac unrhy w nwyddau y cyn-i northwyasoch i'w cludo dros y moroedd erioëd, enaid gwerth- fawrusach na'r holl ser fydd yn chwarae uwch eich penau wyl- iadwriaethau y nos : enaid, yr hwn a barha i fod yn ddedwydd neu yn annedwydd, pan elo y nefoedd heibio gyda thwrf. Ië, sylwch gydforwyr, y mae gan bob unohonoch enaid o'i fewn: enaid yr hwn os colli, ni byddai yv holl fyd pe ei henillit ef yn daledigaeth ddigonol. Y llong, lwyth gwerthfawr hwn, yr eneid. iau anfarwol hyn ydyntynhwyl- iaw mewnllestri bregus iaẅn, ar fordaith beryglus bywyd ; ar yr hon fórdaith yr ydych chwi yr awr hon; a chwi a'i terfynwch naill ai yn mhorthladd y nef, neu yn llyngclyn dystryw. Yr ydych oll yn prysuraw i un o'v ddau le yma. Yrn un o'r ddau l.e hyn yr angorwch oll yn angeu. Pa un o honynt a gyrhaeddwch sydd yn dibynu ar y llwybr y Uywioch. Dyma y rhesymau pa ham yr ydym yn ymdeimlaw yn eich hei wydd ; a pha ham yr ydym yn eichcyfarch. Dymuijeni 2B