Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEYSORFA. Rhip. 496.] CHWEFROR, 1872. [Llyfr XLIL GOBAITH MEWN OFN. GAN Y PARCH. DANIEL JENRINS O'R BABELL, MYNWŸ. Diauebion xiv. 26: "Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith. cadarn." Y MA.E plant dynion yn ddiwahaniaeth yn coleddu gobaith am ddedwyddwch Uyfodol; ond gau a gwâg yw gobaith llaweroedd, a thry allan yn siomedig- aeth iddynt yn y diwedcí, o herwydd eu bod yn ei adeiladu ar sylfeini I anaddas ac annigonol. Adeilada lìuoedd ! eu gobaith ar y fath sylfeini tywodlyd | â'r rhai canlynol: haniad o rieni duw- j iol—proffes o grefydd—ymarferiad oer- j aidd âg ordinhadau allanol—ac ymddi- byniad ar drugaredd Duw heb unrhyw oíygiad cyfaddas ynghylch ei sancteidd- rwydd a'i gyfiawnder. Ofer a gau yw yr holl obeithion hyn; o herwydd " yn ofn yr Arglwydd," ac yn hyny yn unig, " y mae gobaith cadarn." Y " parchedig ofn " a olygir yma ; y cyfryw ag sydd yn "ei blant ef;" ofn parchus ac anwylaidd. Nid oes dim yn boenus yn yr ofn hwn. Dywed yr apostol Ioan, "Y mae i ofn boenedig- aeth." Ond ofn caethiwus yw hwnw : ofni Duw fel y gwna caethwas ofni meistr, neu droseddwr ofni barnwr. Y mae i'r ofn hwn boenedigaeth, o herwydd, y mae yn amddifad o gariad, ac yn wrthwynebol iddo; ac y mae cariad yn wrthwynebol iddo yntau, ac yn ei fwrw allan. "Y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn." Nid ä yr ofn allan ond trwy gael ei fwrw allan. Y mae mor dueddol i ni o herwydd ein heuogrwydd, ac. mor lynedig wrthym, fel y gwna aros a thrigo ynom oddieithr "ei fwrw ef allan." " Ÿ mae perffaith gariad yn bwrw ailan " yr ofn gwasaidd. Ond. nid yw yn bwrw allan yr ofn mabaidd. Dwyn hwn i mewn y mae, ei feithrin, a'i gynnyddu. Y mae.yr ofn hwn yn cantyn cariad, ac yn tarddu o hóno, ac yn cynnyddu fel y mae y cariad yn cynnyddu. Ofni anfoddloni Duw ydyw, ac felly y mae yn llawn cariad at Dduw. Y mae cariad yn naturiol yn ofni anfodd- loni ei wrthddrych. Mae y plentyn tyner a da, hoff a pharchus o'i dad, yn ofni anfoddloni ei dad, er y byddai yn sicr na chai deimlo y fnangell na'r wialen ; ond ofni y ffiangell, ac nid yr anfoddlonrwydd, y mae y caethwas. Mae yr ofn parchus hwn yn hanfodol i dduwioldeb, ac yn grynodeb o'r oll o húni. Gosodir duwioldeb allan yn fynych yri yr Ysgrythyrau dan" y nodwedd o ofni yr Arglwydd. Yr ofn hwn yw sylwedd sancteiddrwydd, a ffynnonell cledwyddwch. Y mae gobaith cadarn ynglŷn âg ef, ac yn cael ei gynnyrchu ganddo. Cysylltir gobaith âg ofn yr Arglwydd yn fynych yn yr Ysgrythyrau Sanct- aidd. Mae y cysylltiad sydd rhyng- ddynt yn agos iawn; mor agos fel y dywedir yn y testun, " Yn ofn yr Ar- glwydd y mae gobaith cadam." 1. Trwy ofn yr Arglwydd, neu wir dduwioldeb, yr ydym yn dyfod i hawl o'r addeu-id fawr am bob peth anghen- rheidiol arnom %n y byd hicn a'r hwn a ddaw. "Duwioldeb sydd fuddiol i bob petli, a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydcl." Mae yr addewid gyfoethog gan dduw- ioldeb; ac y mae yr hwn sydd yn feddiaimol ar dduwioldeb, yn feddian- nol ar addewid duwioldeb. Y mae duwioldeb a'r addewid yn myned gyda'u gilydd bob amser, fel y mae yr.