Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Rhip. 501.] GORPHENAF, 1872. [Llypr XLII. CHRYSOSTOM, NEU IOAN AUR-ENAU. GAN Y PARCH. JOHN OGWEN JONES, B.A. Y RHAN GYNTAP. Yn llyfr yr Actau, darllenwn cldarfod i Barnabas a Paul lafurio yn sefydlog iim flwyddyn gyfan yn yr eglwys yn Antiochia, a bod yn ystod y flwyddyn hono yn galw y dysgyblion yn gyntaf yn Gristionogion. O'r un ddinas yr an- íbnwjd Paul a Barnabas i gludo y cyn- northwy a roddodd yr eglwys enwog hono yn amser y newyn, i'r saint tlod- ion yn Judea ; ac o'r un lle yr anfon- wyd ar ol hyny yr un personau i ym- ofyn ynghylch mater yr enwaediad, i ymgynghori â'r fam-eglwys yn Jeru- salem. Yn yr un dref y ganwyd, y dygAvyd i fyny, ac y llafuriodd Chrysostom am ttynyddoedd lawer—un o'r rhai mwyaf enwog a fu yn y bj-d erioed. Ei enw priodol a chyntefig ydoedd John. Cyf- enw a ennillodd o herwydd ei hyawdl- edd swynol ydoedd Chrysostom, neu " Aur-enau," yr hwn gyfenw erbyn hyn sydd wedi dyfod yn enw, a'r enw ar- ferol wrth ba un y gelwir ef. Y mae amseriad ei enedigaeth yn ansicr. Y dyddiad a roddir gan Mosheim, ac ar ei ol gan nifer mawr o ysgrifenwyr, ydyw O.C. 354. Y flwyddyn hon a roddir yn Hanes y Merthyron, gan Thomas Jones. Gan Neander yn ei Hanesiaeth Eglwysig'a By wyd Chrysostom, rhoddir 347, yr hon flwyddyn sydd yn sicr o fod yn llawer mwy tebygol, fel y profir gan Stephens yn ei Fywgraffiad o Chrysostom, yr hwn sydd newydd ei gyhoeddi (pen. 2, nodiad (1.) tan y ddalen). Gellir yn ddiogel nodi O.C. 345 fel y flwyddyn fwyaf tebygol, fel y gwna Stephens ac eraill. Enw ei dad. ydoedd Secundus, yr hwn ydoedd yn foneddwr milwrol parchus, ac wedi ei ddyrchafu i'r swydd filwroí o "magister militum" ar y fyddin ymherodrol yn Syria, gyda'r teitl o "Ellustris" h y., enwog. Enw ei fam, yr hon hefyd ydoedd wedi hanu o deulu urddasol, ydoedd Anthusa. Bu farw ei dad pan nad oedd John ond baban,ganadaelgívedd w ieuanc tuag ugain oed; ond gadäwyd hi mewn amgylchiadau cysurus. Yr oedd Anthusa yn wraig ieuanc o gymeriad rhagorol. Y mae ammheuaeth a ydoedd y pryd hwn wedi ei bedyddio; ond sicr ydyw ei bod o dueddfryd crefyddol cryf, ac yn dra phryderus ac ymroddgar i geisio dwyn ei mab i fyny yn grefyddol. Teimlai ei chyfrifoldeb yn hyn i raddau mor íawr, nes yr ydoedd ar brydiau ymron â chael ei gorlethu gan yr ystyr- iaeth o hóno; a thystiai ar ol hyny, wrth ei mab, nas gallasai dimei galluogi i fyned trwy y prawf tanllyd hwn ond profiad o gynnorthwyon Dwyfol, a'r ymhyfrydiad a deimlai yn y drych- ieddwl am gael syllu ar ddelw ei gẃr yn adlewyrchu yn ei mab. Ymofyn- odd am y dysgawdwyr enwocaf iddo ymhob cangen o ddysgeidiaeth; a gwnaeth ei goreu i'w gadw rhag y dyl- anwadau llygredig oedd yn ei amgylch- ynu yn y ddinas fawr lle y cafodd ei ddwyn i fyny. Y mae y naill ar ol y llall o'i fy^'graffwyr yn sylwi mai yr hyn a fu Monica i Augustine, a Nonna i Gregory, hyny a fu Anthusa i Chrys- ostom. Ar ol addysg fanwl yn y teulu am dair blyredd, pryd y dangosodd allu anarferol i gymeryd dysgeidiaeth i