Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSOEFA. Rhip. LXVIII.J AWST, 1852. [Llyfr VI. ŵaBtl;uta a ẅjrritofymr. BYR WAITH YR ARGLWYDD AR Y DDAEAR. (Pcwâd o Bregeth gan y Parch. Dr. Candlish, Edinburgh, ar Rliuf. ix. 28.) III. Gangymhwysorheolneuddeddfyr oruchwyliaeth Ddwy fol at y byd yn gyff- redinol, ac at genedloedd y ddaear, gall- wn ei chadarnâua'iheglurotrwy gyfeirio at y diluw,—dyfethiad dinasoedd y gwas- tadedd trwy dân,—dinystrPharao a'i lu, dymchweliad cyfìym cenedloedd Can- aan, ar ol oesoedd hirfaith o oddefgar- wch,—cymeriad Jerusalem gan frenin Babilon, yr hyn, er g waethaf rhybuddion prophwydoliaethol ac arwyddion rhag- luniaethol, a ddaeth gyda sydynrwydd annysgwyliadwy, trwy i Dduw gwtogi y gwaith mewn cyfiawnder. Neu gall- em chwilio am esiamplau o'i gweithred- iad yn llosgiad y ddinas a gwasgariad y genedl gan y Rhufeiniaid,—yn y cyd- gasgliad o adfydau a ymdyrasant i'r tymor byr a fu yn ddigon i ddymchwel- yd Rhufain Baganaidd; ac mewn Uawer o esiamplau ereill o ddirwyniad brys- iog i fynu, megys, o ranau dilynol o'r drefn fawr Ddwyfol hono ag sydd yn cyrhaedd yn ol hyd y cwymp, ac yn cyfeirio yn y pen draw at y Uawn gyflawniad o'r ddedfryd y byddai i Had y wraig ysigo pen y sarff. Ond gadewch i ni ddyfod ar unwaith at ein hamseroedd ni ein hunain, ac at ansawdd pethau yn y byd o'n hamgylch yn awr. Edrychwch ar Ewrop Grist- ionogol. Ystyriwch y cenedloedd sydd mor hir a chyda chymaint o gynddar- edd wedi gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Grist ef,—gan ddiarddel ei efengyl fendigedig, a thalu Cyfres Newydd. gwarogaeth, naill ai mewn ofergoeledd ffol-serchus, neu rhagrithrwydd an- ffyddiaeth, i'w archelyn, Annghrist, y Dyn Pechod. Y dyb gyffredin am ddygwyddiadau y blynyddoedd diwedd- af yw, fod gwedd a chymeriad tra thebyg i rai barnedigaethol arnynt. Maent wedi myned yn hollol tu draw i allu pawb rhoi cyfrif am danynt yn ol ystyr gyffredin pethau gwladwriaethol. Maent yn dyrysu a herio craffder dyfh- af doethineb gwledyddol, i allu eu rhag- ddysgwyl yn mlaenllaw, ac i roi cyfrif am danynt neu eu prisio a'u mesur pan y delont. Ac nid oes dim ynddynt yn dynodi yn fwy amlwg a diddadl eu harwyddocad barnol, na'r brys a'r ffrwst â pha un y mae cyfwng ar ol cyfwng, a dyrnod ar ol dyrnod, yn dilyn eu gil- ydd. Mae ymweliadau oes megys wedi ymdyru yn awr i gwmpas deng mlyn- edd, ie, bron i un flwyddyn. Mae rhyfeddodau hanesyddiaeth, hen a di- weddar, yn cael eu cyflawni eto o flaen ein llygaid, 'ie gydag ychwanegol elfenau syndod,—a'r cwbl mewn amser mor fyr ag y gellir ei gyfrif wrth yr wyth- nosau, a hyd yn nod wrth y dyddiau. Onid oes argraff ar bob meddwl ystyr- iol fod rhyw brysuriad drwgargoeliog yn y modd y mae ysgogiadau chwyl- droawl Ewrop Babaidd yn cael eu dwyn yn mlaen ? Gellid meddwl fod cymhell- iad hunansymudol y rheilffordd, a throsglwyddiad trydanol hysbysiad o fan i fan* wedi ei gyfranu i feddyliau