Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYSORFA. Hhif. cxli.] MEDI, 1842. [Llyfr XII. COFNODAU CYMDEITHASFA LLANBEDR, Goepheîíaf 6ed, 7fed, a'r 8fed, 1842. CADEIRYDD.-Y PARCH. JOIIN EVANS, CROSS INN. Cyfarfod Aelodau Cyfeisteddfod Athrofa Trefecca, am 11 o'r gloch dydd Mawrth, y 6ed. 1. Cytunwyd fod cynnifer o ystafell- oedd adeilad helaeth Trefecca i gael eu fhoddi at wasanaeth yr Athraw ag a fyddo yn angenrheidiol i fyw ynddynt yn gysurus, ynghyda'r ardd, a rhan o'r tir perthynol i'r lle. 2. Cytunwyd ar y swm bwriadol i'w roddi yn flynyddol i'r Athraw, ynghyd ag amrywiol bethau ereill perthynol i ddechreuad yr Athrofa. Rhoddir hys- bysiaeth pellach am hyn rhagllaw.; 3. Cytunwyd fod Mr. Rees Jones, Llanymddyfri, i fod yn gyd-ysgrifenydd â Mr. D. Charles, Caerfyrddin, dros Gyf- eisteddfod yr Athrofa. Cyfeisteddfod y Gymdeithas Genadol Gartref- ol, am 7 o'r gloch. 1. Cytunwyd fod y Rhaiadr, yn Sir ^aesyfed, i gael ei ddiwallu â gweini- dogaeth o'r Siroedd cylchynol, hyd Gymdeithasfa mis Hydref nesaf. Go- beithir y gellir pennodi ar ryw un add- as i fod yno yn Genadwr sefydlog y pryd hwnw. 2. Cytunwyd fod Mr.. W. Evans, y Cenadwr presennol yn Laugharne, i fod yno hyd Gymdeithasfa Merthyr Tydfil; ac yQ y cyfamser bod i Mr. G. Harris, ^r. D. Charles, Mr. J. Davies, a Mr. R. ^hillips, fyned i ymweled â'r lle, bwrw golwg ar ansawdd yr achos, a dyfod a'u golygiadau i'r Gymdeithasfa ddywed- edig, o barth i'r ffordd oreu i fyned â'r achos yn mlaen rhagllaw. 3. Cytunwyd fod personau addas i gael eu hanfon bob hanner blwyddyn | r amrywiol sefyllfaoedd perthynol i'r Genadaeth; a bod cydnabyddiaeth add- as yn cael ei wneud i'r cyfryw ymwel- wyr am eu llafur a'u gwasanaeth. Cyt- unwyd fod y Parch. W. Griffiths, Bro- wyr, a'r Parch. J. Bowen, Llanelli, i fyned i ymweled â'r sefyllfaoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro: a'r Parch. D. Howelis, Llanilltyd-fawr, a"r Parch. J. Walters, Ystrad-gynlais,i fyned i ym- weled â Siroedd Hertford, Maesyfed, a Mynwy. 4. Cytunwyd fod Rheolaá mwy man- wl i gael eu ffurfio, (ar ol cael hanes gan yr Ymwelwyr) i'r dyben o gael y llafur helaethaf yn yr amrywiol sefyllfa- oedd, ynghyda hanes o'r gwaith a wneir ynddynt, er boddhad i'r gwledyddsydd yn cyfranu at yr achos. A bod ail ddewis y Cenadon goreu, a mwyaf defn- yddiol, ac ystyried a fydd rhyw newid- iad yn angenrheidiol er budd a bywhad yr achos. 5. Cytunwyd peidio gosod dim yn rhwystr yn ffordd y Pareh. E.Davies, o barth i'w symudiad o Brilley, os barna fod rhagluniaeth yn agoryd drws iddo fod yn íẅy defnyddiol ar faes arall—ond bod iddo roddi gwybodaeth brydion i'r Cyfeisteddfod cyn yr ymadawo oddiar y maes y llafuria arno yn bresennol. 6. Cytunwyd rhwymo ychydig gann- oedd o'r Llyfr Hymnau Ueiaf, a'u gwerthu am 3s. 6ch. yr un; a dangos i'r wlad fod yr elw sydd yn deilliaw oddi wrtho yn myned at yr achos cref- yddol; a bod i bob Sir ddefnyddio y Hwybr a fernir yn fwyaf effeithiol i'w werthu, ac i gael yr arian mor fuan ag y byddo yn bosibl i law y Trysorydd, a gwneud pob peth a ellir tuag at gael ein cynnulleidfaoedd yn mhob man i'w ar- feryd yn yr addoliad cyhoeddus.